Yr ymddiriedolaeth a elwid gynt yn….
07/04/2026
By Admin2
Bydd ymddiriedolwyr a staff Parc yr Esgob yn defnyddio’r enw “Ymddiriedolaeth Parc yr Esgob” o fis Ebrill 2026 ymlaen fel enw gweithredol cyhoeddus yr elusen, er y bydd The Tywi Gateway Trust yn parhau fel ein teitl cofrestredig cyfreithiol. Esboniodd Betsan Caldwell, Cadeirydd y Bwrdd “Roeddem eisiau gwella adnabyddiad o enw Parc yr Esgob a’r …
















Llongyfarchiadau i Michael Norman MBE!
Posted: 11/06/2019 by Admin
Plannu llwyfen wen Ewropeaidd ym Mharc yr Esgob i ddathlu cyfraniad Michael Norman i’r safle.
Cafodd Michael Norman, un o’r ymddiriedolwyr a sylfaenodd Ymddiriedolaeth Drws i’r Dyffryn, ei anrhydeddu yn rhestr Anrhydeddau Penblwydd y Frenhines am wasanaethau i dreftadaeth.
Roedd Michael yn un o sylfaenwyr Ymddiriedolaeth Gerddi Hanesyddol Cymru 30 mlynedd yn ôl, ac yn wirfoddolwr, cyfarwyddwr ac ymddiriedolwr gyda Choedwig Dyffryn Penllergaer i fyny at dair blynedd yn ôl.
Gweithiodd Michael yn ddiflino o 2014 i sefydlu a chodi arian i brosiect Drws i’r Dyffryn, ac heb ei ymdrechion, ni fyddem yn y broses o adfer Parc yr Esgob nawr.
Category: Newyddion Diweddaraf