Llongyfarchiadau i Michael Norman MBE!

michaelnormanelm
Plannu llwyfen wen Ewropeaidd ym Mharc yr Esgob i ddathlu cyfraniad Michael Norman i’r safle. 

Cafodd Michael Norman, un o’r ymddiriedolwyr a sylfaenodd Ymddiriedolaeth Drws i’r Dyffryn, ei anrhydeddu yn rhestr Anrhydeddau Penblwydd y Frenhines am wasanaethau i dreftadaeth.

Roedd Michael yn un o sylfaenwyr Ymddiriedolaeth Gerddi Hanesyddol Cymru 30 mlynedd yn ôl, ac yn wirfoddolwr,  cyfarwyddwr ac ymddiriedolwr gyda  Choedwig Dyffryn Penllergaer i fyny at dair blynedd yn ôl.

Gweithiodd Michael yn ddiflino o 2014 i sefydlu a chodi arian i brosiect Drws i’r Dyffryn, ac heb ei ymdrechion, ni fyddem yn y broses o adfer Parc yr Esgob nawr.