Archwiliwch Dyffryn y Tywi

abergeiliaerial

Dewch i ddechrau eich archwiliad o Ddyffryn Tywi ym Mharc yr Esgobion. Mae gwirfoddolwr Drws i’r Dyffryn, Nigel Bailey, wedi dylunio a disgrifio cyfres o deithiau cerdded y gellir i gyd eu cychwyn ym Mharc yr Esgocion a’r Amgueddfa. Mae’r holl wybodaeth sydd ei hangen arnoch, gan gynnwys map, esboniad o’r llwybr a mewnwelediadau diddorol i’r ardal rydych chi’n cerdded drwyddi ar y wefan yma.

Y cyntaf o’r teithiau cerdded hunan-dywys  yw’r ‘Daith Gerdded Afon Gwili a’r Rheilffordd’ sy’n 3¼ milltir o hyd.

Mae’r daith hon yn eich tywys trwy dirwedd o leoedd a chymeriadau hanesyddol sy’n mynd yn ôl mil o flynyddoedd; o Rhain “Y Gwyddel” a Brwydr Abergwili i waith plât tun Caerfyrddin o’r 18fed ganrif a safle gwersyll carcharol yr Ail Ryfel Byd.