enquiries@tywigateway.org.uk Parc a Gerddi yr Esgob, Abergwili, Sir Caerfyrddin SA31 2JG

Daw’r dystiolaeth ar gyfer yr ardd a’r parc yn Abergwili yn hwyr yn hanes y safle. Yn wir, nid yw’r rhestr o’r eiddo y mae Esgob Tyddewi’n berchen arnynt a ysgrifennwyd ym 1326 yn dweud a fodolai gardd neu barc yn Abergwili hyd yn oed.

Er gwaethaf hyn, cofnodwyd bod gan bump o eiddo eraill yr esgob erddi. Ni chafodd y gerddi yn Abergwili eu crybwyll tan i’r cofnodion dan Esgob Ottley gael eu rhoi at ei gilydd.

Mae dau ddarn o waith celf dienw o’r palas o ganol y ddeunawfed ganrif yn dangos gerddi ffurfiol a pharc difyrion wedi’i dirlunio. Ar yr adeg hon, ymddengys mai lawntiau syml a llwybrau a blannwyd gydag ychydig goed a llwyni oedd y tiroedd hyn.

Erbyn 1784, mae braslun yn dangos lawntiau agored blaenorol y parc difyrion oedd bellach wedi’u plannu gyda choed a llwyni aeddfed. Mae disgrifiadau pellach gan Mary Morgan ym 1791 yn trafod symlder ac eto harddwch cynllun y tir.

Mae map o’r safle o 1796 yn dangos gardd i ogledd y palas sydd wedi’i cholli erbyn hyn; yr ardd lysiau i gyfeiriad y gorllewin a’r parc difyrion i’r dwyrain. Yn ystod yr un flwyddyn, disgrifiodd Iolo Morganwg, y bardd a’r hynafiaethydd y palas am fod ‘mewn man prydferth yn Nyffryn moethus Tywi.

Newidiodd y palas a’r tir cryn dipyn rhwng 1801 ac 1803 dan yr Esgob Arglwydd George Murray. Dywedwyd ‘dan ei reolaeth, daethpwyd â’r tir i gyflwr amaethu a harddwch uchel, ond yn syml o ran chwaeth…’

Mae map hen ffasiwn yn dangos caeau, yr Hen Afon, plotiau tir wedi'u labelu, llwybrau troellog, eglwys, ac adeiladau wedi'u lliwio'n goch. Mae enwau a rhifau wedi'u hysgrifennu â llaw yn nodi perchnogion eiddo a lleoliadau. Mae coed ac ardaloedd cysgodol yn dynodi nodweddion tirwedd.

Mae cynllun o’r safle ar yr adeg hon yn dangos lawnt i ddwyrain y palas gydag un llwybr yn ymgordeddu i gyfeiriad y dwyrain trwy goed wedi’u plannu’n ddwys. Ar yr adeg hon, ym 1802, o ganlyniad i lifogydd difrifol, newidiodd Afon Tywi ei chwrs i ffwrdd o Barc yr Esgob. Symudodd yr afon ymhellach ar draws llawr y dyffryn, gan adael dim ond llyn dolennog oedd yn dangos ei gwrs gwreiddiol. Daeth hwn yn adnabyddus fel Pwll yr Esgob ac mae’n parhau i fodoli heddiw ym mhen dwyreiniol y tir, yn hafan i fywyd gwyllt.

Mae afon dawel yn troi drwy dirwedd laswelltog, wedi'i leinio â choed o dan awyr rhannol gymylog, gydag adlewyrchiadau o goed a chymylau i'w gweld ar wyneb y dŵr. Mae canghennau'n fframio'r olygfa o'r uchod.

Ffotograff o Bwll yr Esgob a dynnwyd yn y 1980au, yn y gwanwyn, mae wedi’i orchuddio gyda lilïau’r dŵr melyn gan greu sioe arbennig i ymwelwyr y parc.

Pan ailadeiladodd yr Esgob John Jenkinson y palas ar ddechrau i ganol y bedwaredd ganrif ar bymtheg, cafodd y tir ei ailfodelu ar ffurf pictiwrésg hefyd gyda golygfannau trwy’r coed ar draws ac i fyny’r dyffryn. Yn y 1840au, dywedwyd iddo ‘ychwanegu tipyn at brydferthwch y parc difyrion trwy welliannau call’.

 Map hanesyddol du a gwyn yn dangos eiddo mawr gyda mannau wedi'u labelu, gan gynnwys palas, eglwys, gerddi, llwybrau, a chaeau cyfagos. Mae coed a ffyrdd wedi'u braslunio, gyda thir cyfagos wedi'i farcio "William Bayle Esq.".

Mae map ystâd o 1843 yn dangos yn union pa mor helaeth fu’r newidiadau hyn. Cafodd adeiladau o gwmpas yr ardd lysiau â wal o’i chwmpas eu dymchwel i ymestyn y gerddi, wrth i adeiladau gardd newydd gan gynnwys orendy gael eu codi. Sefydlwyd gardd flodau cylch ffurfiol i ogledd y palas ac mae’r tir bellach wedi’i blannu’n dda gyda choed a llwyni gyda llwybr syml yn mynd o gwmpas yr ymyl. Rhedodd rhodfa breifat ar draws y Ddôl Fawr ar hyd glannau Pwll yr Esgob.

Mae llun lliw sepia yn dangos dynion mewn dillad o ddechrau'r 20fed ganrif yn sglefrio iâ yn yr awyr agored; mae un dyn yn eistedd ar y rhew tra bod eraill yn sefyll o'i gwmpas, yn gwenu. Mae coed a mwy o sglefrwyr i'w gweld yn y cefndir.

Sglefrio ar y Ddôl Fawr yn ystod blynyddoedd cynnar yr ugeinfed ganrif
Diolch i Amgueddfeydd Sir Gaerfyrddin

Cofnodir rhai mân newidiadau i’r tir yn hanner olaf y bedwaredd ganrif ar bymtheg ar fap Arolwg Ordnans 1889. Roedd yr ardd gylch ffurfiol wedi mynd, wedi’i disodli gan lawnt wrth i dri thŷ gwydr newydd gael eu hadeiladu yn yr ardd lysiau gyda wal o’i chwmpas.

 Ffotograff lliw sepia o fwthyn bach, hen gyda tho gwellt, wedi'i amgylchynu gan goed mawr a dail trwchus, gan greu awyrgylch heddychlon, gwledig.

Porthdy’r Parc yn oddeutu 1890
Diolch i Amgueddfeydd Sir Gaerfyrddin

Yn ystod y 1890au, roedd y tir yn lleoliad ar gyfer sioeau garddwriaethol blynyddol. Ym 1894, bu Mr Keightly, Prif Arddwr y palas, yn un o’r beirniaid. O gwmpas troad yr ugeinfed ganrif, disgrifiodd Gwenonwy Owen, merch yr Esgob Owen fod y tir yn cynnwys ‘llwyni sy’n blodeuo, castanwydden enfawr ryfeddol…yng nghanol y lawnt, y gedrwydden enfawr, dwy neu dair coeden yn agos iawn at ei gilydd ar y lawnt, tair coeden yr oedd y plant yn mwynhau eu dringo…deildy braf iawn wedi’i orchuddio mewn gwyddfid’.

Ym 1902, ychydig cyn tân y palas, Mr Tuberville oedd y Prif Arddwr, a dyfodd ellyg, ffrwythau pwdin a llysiau a enillodd wobrau.

Llun du a gwyn o blasty mawr, hanesyddol gyda simneiau lluosog, wedi'i amgylchynu gan goed a llwyni. Mae canghennau noeth yn fframio brig y ddelwedd, ac mae topiari wedi'i docio yn y blaendir.

Y palas wedi’i adnewyddu ar ôl tân 1903
Diolch i Amgueddfeydd Sir Gaerfyrddin

Mae map Arolwg Ordnans 1906 yn dangos bod conifferau wedi’u plannu yn y palas ac o’i gwmpas ynghyd â pherllan. Ysgrifennodd yr hynafiaethydd nodedig, George Eyre Evans o gwmpas adeg y Rhyfel Byd Cyntaf fod ‘gogoniant Abergwili fodd bynnag yn y Palas, nid y tŷ presennol efallai ond y tir hanesyddol gogoneddus yr oedd wedi’i leoli ynddo’.

Golygfa o'r awyr o ystâd fawr gyda phlasty, gerddi, a choed o'i gwmpas, wedi'i ffinio gan gaeau agored ac adeiladau pentref cyfagos. Mae llwybrau a mynwent i'w gweld o fewn y tiroedd.

Palas yr Esgobion a Gardd â Wal o’i Chwmpas yn y 1950au

Mae Arolwg Ordnans 1970 yn dangos y tir yn ystod ei ddyddiau olaf fel preswylfa breifat gyda dau o’r tai gwydr yn yr ardd â wal o’i chwmpas wedi’u dymchwel a’r trydydd un heb wydr. Ym 1972, defnyddiwyd tir i gyfeiriad y gorllewin o’r palas fel safle preswylfa newydd yr esgob ac ym 1974, rhannwyd y safle pan gaffaelodd Cyngor Sir Caerfyrddin hen Balas yr Esgob, Parc a Phwll yr Esgob, tra arhosodd yr ardd lysiau â wal o’i chwmpas gyda Chorff Cynrychioliadol yr Eglwys yng Nghymru.

Ardal laswelltog wedi'i ffinio gan goed tal gyda dail mewn lliwiau'r hydref, gan gynnwys arlliwiau oren a brown, o dan awyr glir. Mae gan un goeden ddail trwchus, pigog, gwyrdd tywyll sy'n sefyll allan ymhlith y lleill.

 Mae coeden fawr gyda dail brown-goch yn sefyll mewn ardal laswelltog ger tŷ. Yn y blaendir, mae ffens bren fach, lliw golau yn amgylchynu rhan o'r lawnt. Mae'r awyr yn glir ac yn las.

Y tir yn yr hydref 1987 yn dangos safle’r Swyddfa Dywydd