Straeon Gwirfoddolwyr – Tadeusz Glabus

Gwirfoddolwr garddio

“Rwy’n gwirfoddoli yn y parc ers Gorffennaf 2019

“Roeddwn i’n gweithio i amgueddfa genedlaethol ac yn wreiddiol cynigiais fod yn ymddiriedolwr yma. Newidiais fy meddwl a phenderfynu gwneud rhywfaint o arddio yn lle.

“Byddai rhai’n tyngu bod gwirfoddoli fel garddwr wedi rhoi’r cyfle iddyn nhw ailgysylltu â natur ar lefel gyntefig, i ddod o hyd i’w hunan fewnol go iawn ac iacháu’r anghytgord yn eu meddwl. Gallai eraill dystio bod yr ysgogiad corfforol a meddyliol yn helpu i ohirio meddwl am ddiwedd oes a marwolaeth. Fi, byddwn i’n dweud ei fod yn fy nghael allan o’r tŷ am ychydig oriau.

“Gweithiais yn Llundain i’r Amgueddfa Brydeinig a’r Oriel Genedlaethol am tua 25 mlynedd. Cymerais ymddeoliad cynnar a byw yn lleol gyda fy mhartner a’r ci.”