GQT gyda ffocws ar fywyd gwyllt

Mae Parc yr Esgob yn Abergwili, yn cynnal Amser Cwestiynau i Arddwyr yr Hydref, gyda ffocws arbennig ar fywyd gwyllt, ar Hydref 7fed, 6pm, yng Nghegin Stacey, Parc yr Esgob.

Bydd y gynulleidfa’n gallu gofyn eu cwestiynau am sut i arddio’n wych mewn ffordd sy’n annog peillwyr, yn creu mosaig o gynefinoedd ac sy’n garedig i fywyd gwyllt arall. Er bod y Prif Arddwr Blue Barnes-Thomas a’i dîm o wirfoddolwyr yn rheoli dros 17 erw o barcdir, gerddi, dolydd, coetir a phwll, mae’n gobeithio y bydd y rhai sydd â gerddi trefol, tyddynnod neu flychau ffenestri bach hefyd yn mwynhau’r noson ac yn rhannu eu profiadau gyda blodau, bwyd a bywyd gwyllt.

Esboniodd Blue “Mae’r rhan fwyaf o’n cefnogwyr ac ymwelwyr yn ein hadnabod am dreftadaeth adeiledig Llys yr Esgob, am y gerddi godidog a’r cacennau gwych yng Nghegin Stacey…. Felly roeddem am daflu goleuni ar dreftadaeth naturiol y parc a sut rydym yn gweithio i’w chefnogi, a sut mae bywyd gwyllt yn cefnogi’r hyn a wnawn hefyd.”

“Rydym yn brysur yn casglu panel o arbenigwyr a selogion bywyd gwyllt a garddio a all gynnig amrywiaeth o safbwyntiau – gweler mwy ar y cyfryngau cymdeithasol.”

Mae tocynnau’n £5 o Teresawalters@parcyresgob.org.uk. Bydd Cegin Stacey ar agor ar gyfer gyfer brechdanau, pasteiod, te, cacennau ac ati.

Am ragor o wybodaeth gweler https://parcyresgob.org.uk/cy/whats-on/