Straeon Staff – Louise Austin

Rôl yn y parc: Rheolwr Prosiect.

Ar hyn o bryd, mae Louise yn gweithio ar brosiect yr ardd furiog, sy’n cynnwys adfer yr ardd gegin sef rhan o dir hen balas yr Esgob.

Cefndir: Dechreuodd weithio i’r ymddiriedolaeth ym mis Awst 2018, ond roedd hi wedi gweithio fel archeolegydd yn flaenorol, gan dreulio nifer o flynyddoedd yn gweithio yn y maes. Yn ddiweddarach, aeth ati i weithio ym maes rheoli treftadaeth, ac yna i awdurdodau lleol yn Lloegr, lle darparodd gyngor i awdurdodau cynllunio. Fodd bynnag, ar ôl gweithio am nifer o flynyddoedd yn nhirwedd weddol wastad  Gaergrawnt, roedd hi “eisiau mynd i le gyda bryniau” – penderfyniad a ddaeth â hi i Gymru. Yno, roedd yn parhau â’i gwaith rheoli treftadaeth cyn symud ymlaen i weithio ym Mharc yr Esgob yn Sir Gaerfyrddin.

Hoff ran o’r swydd: “Rwy’n dwlu ar weithio yma; rwy’n mwynhau bod yma a gwneud pethau yn yr awyr agored,” meddai Louise. Mae hi’n mwynhau bod yn rhan o dîm sy’n “cynnal etifeddiaeth a fydd yno ar gyfer y bobl leol,” ac mae’n rhoi “pleser mawr iddi weld pobl yn mwynhau defnyddio’r parc, yn enwedig gweld teuluoedd â sawl cenhedlaeth yn dod yno ac yn ei fwynhau.”