Rôl yn y parc: Garddwr Cynorthwyol
Cefndir: Cyn y rôl hon, bu Yvonne yn gweithio am flynyddoedd lawer yng Ngholeg Gelf Caerfyrddin a Phrifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant, gyda rôl yn y tîm cymorth dysgu. Fodd bynnag, clywodd am y parc am y tro cyntaf tra oedd yn byw yn yr Alban, lle’r oedd yn gwneud profiad gwaith am flwyddyn gyda’r RSPB yn yr Ucheldiroedd. Ar ôl dychwelyd i Gymru, bu’n gwirfoddoli yn y parc fel garddwr, ac yn y pen draw llwyddodd i gael rôl swyddogol yn y parc fel garddwr cynorthwyol yn ogystal â chwblhau Tystysgrif Lefel 2 yr RHS mewn Egwyddorion ac Arferion Garddwriaeth.
Hoff ran o’r swydd: “Rwy’n mwynhau bod yn yr awyr agored, ac yn hoffi gwneud tasgau ymarferol a threfnu,” meddai Yvonne, sydd ar hyn o bryd yn trefnu gwerthiant planhigion ac yn cynllunio ar gyfer y dyfodol, gan ystyried “pa blanhigion sydd angen eu lluosogi ar gyfer y flwyddyn i ddod”.

Straeon Staff – Yvonne Lee
Posted: 20/10/2026 by Anne

Category: Newyddion Diweddaraf