Straeon Staff – Rebekah Sharpe

Rôl yn y parc: Cyfarwyddwr Datblygu

Cefndir: Roedd Rebekah wedi bod yn mwynhau’r parc ers peth amser, ond roedd ganddi hefyd ddau gyn-gydweithiwr yn gweithio yno. Ar ôl clywed faint roedden nhw’n mwynhau eu gwaith, meddyliodd y byddai’n “lle hyfryd i weithio”, ac fe gafodd hi’r swydd! Er bod Rebekah yn gymharol newydd i’r gwaith ym Mharc Yr Esgob, mae ganddi brofiad blaenorol o weithio gydag elusennau Cymreig a chenedlaethol am 22 mlynedd.

Hoff rhan o’r swydd: “Rwy’n mwynhau dysgu am yr hanes yn fawr iawn,” meddai Rebekah, ac mae hi’n teimlo bod y parc yn lle sydd â “mwy i’w ddarganfod”. Mae hi hefyd yn sôn ei bod hi’n mwynhau gweld pobl yn cael amser gwych yn y parc, ac yn falch bod y Parc yn “cael ei garu gan y gymuned”.