Croeso MAWR i’r tîm!
29/09/2025
By Admin2
Croeso cynnes i Gemma Edwards, Swyddog Addysg newydd Parc yr Esgob, a ymunodd â ni ym mis Medi fel rhan o’n Prosiect Adferiad Gardd Furiog. Mae gan Gemma brofiad helaeth fel athrawes y Cyfnod Sylfaen, gyda brwdfrydedd dros ddysgu yn yr awyr agored a llond trol o syniadau. Rydyn ni wrth ein boddau o allu …
Cynhyrchwyr ffilm ym Mharc yr Esgob
Posted: 01/02/2019 by Admin
Mae Daisy White ac Ioan Ings o Akron Productions yn wneuthurwyr ffilm ifanc a thalentog o’r ardal lleol. Fe wnaethwyd eu ffilm gyntaf gyda’i gilydd yn yr ardd gegin waliog ym Mharc yr Esgob, yn recordio’r cloddiadau archeolegol yn ôl ym mis Mawrth 2017.
Mae’r parc yn dal i fod mor ffotogenig ag erioed ac yn hydref 2018 dewisodd Meg Phillips, myfyriwr ail flwyddyn ffilm a diwylliant gweledol ym Mhrifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant, Parc yr Esgob i gynrychioli “lle hapus” yn ei ffilm fer “Ear Buds”.
Category: Newyddion Diweddaraf