Cam I – Chwefror 2019

managingourtreesleaves

Fel rhan o’n cynllun tair blynedd i adfer y Parc, mae angen i’r Ymddiriedolaeth ymgymryd â gwaith sylweddol ar y coed a’r coetiroedd. Bydd y gwaith yn canolbwyntio ar adfywio’r arboretum a’r coedlannau, gan glirio coed afiach, y rhai sy’n gwanio strwythurau rhestredig (yn enwedig yr ha-ha) ynghyd â rhywogaethau ymledol megis llawryf a rhosbren sydd wedi effeithio’n sylweddol ar iechyd y coedlannau. Bydd hyn yn gwella amgylchiadau yn y Parc o ran mynediad a mwynhad cyhoeddus, bioamrywiaeth a iechyd a diogelwch, gan greu cyfle i blannu coed a llwyni newydd ledled y safle.

Bwriedir cyflawni y rhan fwyaf o’r gwaith mewn dwy ran fel rhan o gytundeb allanol:

Cyfnod 1:

  • i gychwyn yn gynnar yn 2019 a pharhau tan 28 Chwefror 2019, er mwyn gorffen cyn i’r tymor nythu adar gychwyn;
  • bydd y gwaith yma yn canolbwyntio ar goed o fewn ac o amgylch y Maes Parcio; yr ardal i’r gorllewin o’r adeiladau allanol lawr y dramwyfa at fynedfa’r amgueddfa; yr ardal yn union o gwmpas yr amgueddfa; tu allan i fur dwyreiniol yr Ardd Furiog ac oddi mewn i’r Ardd ei hun.

Cyfnod 2:

  • rhwng Medi’r 1af 2019 a Medi 29 2020;
  • bydd y cyfnod yma o waith yn canolbwyntio ar goed yn y Gerddi Pleser a’r coetiroedd, yn enwedig ar hyd yr ha-ha.

Bydd yr Ymddiriedolaeth ei hun yn ymgymryd â gweddill y gwaith, gyda chymorth ein gwirfoddolwyr a grwpiau gwirfoddoli eraill. Ni fydd y cyfnod o waith yma yn digwydd o reidrwydd o fewn yr amserlen uchod.

Golyga hyn y bydd angen ynysu ardaloedd yn y Parc ar adegau i sicrhau diolgelwch y cyhoedd. Fodd bynnag, bydd yr Ymddiriedolaeth yn anelu at wneud y Parc mor hygyrch â phosib yn ystod unrhyw gyfnodau o waith, felly pan fydd angen cau llwybr fe wnawn ymdrech i gyfeirio ymwelwyr at lwybr arall os yn bosib. Yn ystod cyfnodau pan na fydd hyn yn ymarferol, bydd yr Ymddiriedolaeth yn ceisio ail-agor llwybrau cyn gynted a phosib.

Gofynna’r Ymddiriedolaeth yn garedig am eich amynedd a dealltwriaeth yn ystod y cyfnod hwn. Mae’n hanfodol bwysig, er eich diolgelwch eich hun, y dilynwch unrhyw arwyddion a chyfyngiadau a fydd yn weithredol yn ystod y cyfnodau gwaith. Mae hyn yn cynnwys sicrhau na fydd cŵn yn croesi unrhyw atalfeydd.

Er y caiff y gwaith hyn effaith sylweddol ar olwg cyfredol y Parc, y bwriad yw gwella’r gerddi at ddefnydd pawb, gan gynnwys bywyd gwyllt. Os hoffech wybod mwy am y gwaith, mae croeso i chi gysylltu â Phen Garddwr yr Ymddiriedolaeth, Piers Lunt drwy e-bost:

pierslunt@tywigateway.org.uk

Gallwch hefyd ymweld â Piers a Rheolwr yr Ymddiriedolaeth, Louise Austin, ar ddydd Llun 17 Rhagfyr yn Neuadd Eglwys Abergwili rhwng 5 a 7yh, i drafod y gwaith a’r cynllun yn fwy cyffredinol.