Dyfodol Disglair i 3 Hyfforddai Garddwriaethol Newydd
10/11/2026
By Admin2
Mae’r ymddiriedolaeth sy’n rheoli Parc yr Esgob yn Abergwili wedi dechrau cyfnod newydd o ddatblygiad gan recriwtio 3 Hyfforddai Garddwriaethol. Mae cyllid gan Brosiect Porth Gwyrdd a Chronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol, ynghyd â chyllidwyr eraill, wedi galluogi’r tîm i ehangu drwy gynnig hyfforddiant mewn garddwriaeth dreftadaeth i arddwyr di-brofiad. Dechreuodd yr hyfforddeion, Ebony Grey, …
















Gwaith Coed ym Mharc yr Esgob
Posted: 07/12/2018 by Admin
Nawr fod Ymddiriedolaeth Parc yr Esgob yn rheoli Parc yr Esgob yn weithredol, mae’n hanfodol bwysig ein bod yn gofalu am iechyd ein coed a choetiroedd.
Golyga hyn fod angen i ni wneud dipyn o waith arnynt ledled y Parc, i wella’r safle ar gyfer pobl a bywyd gwyllt ac i roi cyfle i ni blannu llawer mwy.
I ddarganfod mwy, dewch i’n gweld yn Neuadd Eglwys Abergwili ar Ragfyr 17eg rhwng 5 a 7yh.
Ceir mwy o wybodaeth yma,
neu gallwch gysylltu’n uniongyrchol â’n Pen Garddwr Piers Lunt drwy e-bost:
pierslunt@tywigateway.org.uk
Category: Newyddion Diweddaraf