enquiries@tywigateway.org.uk Parc a Gerddi yr Esgob, Abergwili, Sir Caerfyrddin SA31 2JG

A fedrech chi fod yn Ymddiriedolwr? Pam na wnewch chi ymuno â’n Bwrdd Ymddiriedolwyr!

Cyfle Cyffrous Newydd i Ymddiriedolwr

Pwy ydym ni:

Elusen fach yw Ymddiriedolaeth Drws y Dyffryn, a sefydlwyd yn 2016 i adnewyddu Parc yr Esgob, y parc a’r gerddi sy’n amgylchynu’r amgueddfa sirol yn Abergwili, ac i ddatblygu adeiladau segur hen Balas yr Esgob yn ganolfan ymwelwyr a chaffi. Agorwyd y prosiect adfywio £2.4m hwn yn swyddogol, gyda chefnogaeth Cronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol a Chyngor Sir Gaerfyrddin ym mis Gorffennaf 2022.

Rydym yn rhoi Parc yr Esgob ar y map fel cyrchfan arbennig ar gyfer ymwelwyr i grwydro o gwmpas y gerddi sydd wedi’u tirlunio’n hardd, yr ardd furiog, y parcdir a’r golygfeydd ar draws dyffryn Tywi. Mae yna fywyd gwyllt hynod, SoDdGA* a hanes unigryw i’w fwynhau yn ogystal â buddion byd natur a bod allan yn yr awyr iach.

Mae’r Ymddiriedolaeth yn ddibynnol ar godi arian drwy gyfrwng grantiau a chyfraniadau yn ogystal â’r incwm a gynhyrchir yn y parc ac ar haelioni gwirfoddolwyr a chefnogwyr i barhau â’n gwaith i’r dyfodol.

Y sgiliau a’r profiad angenrheidiol

Mae’r Ymddiriedolaeth yn cyflogi tîm bychan o staff, gyda bwrdd rheoli o hyd at 12 o bobl o’r gymuned leol (ymddiriedolwyr) yn ei redeg. Ar hyn o bryd, mae gyda ni lefydd gwag, ac rydyn ni’n chwilio am bobl â’r sgiliau a’r profiad mewn un neu fwy o’r meysydd canlynol:

profiad entrepreneuraidd, er mwyn helpu i ganfod cyfleoedd masnachu pellach, a chynyddu elw yn achos y rhai sydd eisoes ar y gweill, er mwyn i ni allu defnyddio ein holl adnoddau’n ddoeth a chryfhau ein busnes sylfaenol.

sgiliau codi arian neu brofiad o gynhyrchu incwm, er mwyn ein helpu i ddenu ffynonellau newydd o gyllid a datblygu ein cynaliadwyedd gweithredol

marchnata neu sgiliau CC, er mwyn helpu i gyrraedd cynulleidfaoedd newydd a chodi ein proffil ymysg cefnogwyr newydd, cyfranwyr a buddiolwyr, a phartneriaid posibl

Nid oes angen profiad blaenorol fel aelod o fwrdd/ymddiriedolwr, ac rydym yn croesawu ceisiadau gan bobl o bob oed a chefndir. Er bod cydbwysedd da rhwng y rhywiau ar y Bwrdd ar hyn o bryd a sawl aelod dwyieithog, rydym hefyd yn awyddus i gyfoethogi a chynyddu amrywiaeth o safbwynt oed, anabledd ac ethnigrwydd.

Yr ymrwymiad

Mae ymddiriedolwyr yn gwasanaethu am 3 mlynedd i ddechrau, gan gyfarfod yn ein canolfan ymwelwyr ar gyfer cyfarfodydd o’r Bwrdd bob yn ail fis ar brynhawn Mawrth rhwng 4:00-6:00 pm. Gellir trefnu mynychu’n rhithiol os na all ymddiriedolwr ddod i’r cyfarfod ei hun. Disgwylir hefyd i ymddiriedolwyr ymrwymo i waith pwyllgor ar hap drwy un o’n 3 is-grwp – Llywodraethiant, Risg, Marchnata ac Ariannu a Chyllid. Mae rhai ymddiriedolwyr yn dewis gwirfoddoli yn yr ardd neu ganolfan ymwelwyr hefyd, er bod rhydd i bawb wneud fel y mynnant

Buddion ymddiriedolwyr

  • y cyfle i wella iechyd a lles pobl a chymunedau
  • cyfle i ddylanwadu ar brosiectau’r dyfodol a chamau datblygiad
  • cyfle i gymryd penderfyniadau strategol a datblygu sgiliau newydd
  • cyfleoedd i rwydweithio
  • hyfforddiant ar ôl penodi
  • ystyriaeth o ad-daliad rhesymol o gostau personol yn ôl yr angen.

 

Sut i gael gwybodaeth bellach

Am wybodaeth bellach am yr Ymddiriedolaeth a Pharc yr Esgob, ewch i’n gwefan.  Mae croeso i chi hefyd gysylltu â’r Cadeirydd, Betsan Caldwell, ar 07557 389452 neu ar betsan.caldwell@gmail.com am sgwrs anffurfiol yn Gymraeg neu yn Saesneg, neu i drefnu ymweliad.

Dyddiadau cau a chyfweld

I ymgeisio, anfonwch eich CV a llythyr atodol yn egluro pam fod y rôl yn apelio atoch a sut y gallai eich sgiliau a’ch profiad arbennig gyfrannu at waith y bwrdd. Caiff ceisiadau eu trin yn gyfrinachol a dylid eu hanfon dros e-bost at y Cadeirydd. Caiff ymgeiswyr ar y rhestr fer eu cyfweld maes o law.

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

*Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig