Cronfa Dreftadaeth y Loteri

Adeilad carreg wedi'i hindreulio wedi'i orchuddio ag eiddew a mwsogl, gyda ffenestr fwaog wedi torri a llwybr wedi gordyfu yn arwain heibio iddo o dan goed deiliog.

Rydym wrth ein bodd o gyhoeddi fod grant datblygu o £136,300 wedi’i ddyfarnu i ni gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri dan eu cynllun Parciau ar gyfer Pobl tuag at adnewyddu Parc yr Esgob yn Abergwili.

Bydd y cyllid datblygu a ddyfarnwyd yn ein helpu ni i ddatblygu’n cynlluniau i wneud cais am grant llawn yn nes ymlaen. Ein nod yw sicrhau cyllid Cronfa Dreftadaeth y Loteri i ddatblygu Parc yr Esgob fel cyrchfan gydol y flwyddyn ynghyd ag amgueddfa, canolfan i ymwelwyr a gwirfoddolwyr, parc difyrion wedi’i adfywio, gardd lysiau, dôl gorlifdir a llyn dolennog gyda’i ynys gyfrinachol.

Dywedodd Judith Holland o Ymddiriedolaeth Gerddi Hanesyddol Cymru: “Rydym wedi bod yn poeni ers amser hir am ddirywiad y gem hwn o barc sydd cyn bwysiced i dreftadaeth dyffryn Tywi, yn ogystal ag i bobl leol heddiw. “Mae’r grant hwn gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri felly’n nodi’r cam mawr cyntaf i adfywio Parc yr Esgob.”

Dywedodd aelod bwrdd gweithredol Sir Gaerfyrddin dros dreftadaeth, sef y Cyng. Meryl Gravell: “Mae hyn yn newyddion gwirioneddol dda i’r ardal, ac yn dechrau’r Flwyddyn Newydd yn dda iawn!

Bydd prosiect Porth Tywi, ynghyd ag Amgueddfa’r Sir, yn dathlu harddwch, hanes a threftadaeth yr ardal.

“Edrychaf ymlaen at ddatblygu’r prosiect hwn ymhellach gyda’r bwriad o wneud cais am gyllid pellach i’w gwblhau.”

Dywedodd Jennifer Stewart, Pennaeth Cronfa Dreftadaeth y Loteri: “Rydym yn hapus i gefnogi’r cynlluniau cychwynnol hyn i helpu diogelu treftadaeth naturiol ac adeiledig Parc yr Esgob.

“Datgelodd ein hadroddiad ar Gyflwr Parciau Cyhoeddus y DU diweddar pa mor hynod bwysig yw ein parciau i’n lles corfforol ac emosiynol ond datgelodd hefyd eu bod yn wynebu dyfodol ansicr.

“Mae’n gyffrous gweld sut bydd y buddsoddiad newydd hwn yn mynd rhyw ffordd tuag at helpu parciau fel Parc yr Esgob i ddod o hyd i ffyrdd newydd o’u hariannu a’u cynnal er mwyn iddynt gael eu diogelu fel i bobl o bob oedran eu mwynhau. Edrychwn ymlaen at weld sut mae’r cynlluniau’n datblygu.”