Cyfleoedd Gwirfoddoli
20/05/2024
By Ffiona Jones
Mae gennym gyfleoedd ar gyfer gwirfoddolwyr i’n helpu gydag ein teithiau tywysedig dros fisoedd yr haf. Os oes gennych ddiddordeb yn hanes y safle ac yr ydych yn gallu rhoi awr neu ddau o’ch amser naill ai yn yr wythnos, gyda’r hwyr neu ar benwythnosau, cysylltwch â FfionaJones@tywigateway.org.uk am fwy o fanylion. Bydd hyfforddiant llawn …
Posted: 17/08/2021 by Caroline Welch
Sioe Parc Yr Esgob
Oes gennych bys per penigamp? Ydych yn medru pobi sbwng syfrdanol? Ydy’ch gwau chi’n odidog? Wel, dewch a nhw i’n Sioe Arddwriaethol ni ar y 4ydd o Fedi 2021 ym Mharc Yr Esgob, Abergwili. Mae’r atodlen ar gael yn lleol nawr, ac ar ein gwefan yn fuan! Dosbarthiadau Arddwriaethol, Adran Cartref, Gwaith Llaw ac Adran …
Posted: 15/03/2018 by Admin
Ymchwiliad Archaeolegol o’r Ardd Waliog
Wrth baratoi ar gyfer i ni gymeryd drosodd yr ardd gegin waliog, cynhaliodd Ymddiriedolaeth Archaeolegol Dyfed arolwg helaeth yn 2017, gan gynnwys gweddillion y tai gwydr, a gyda cymorth gwirfoddolwyr lleol. Mae adroddiad yr Ymddiriedolaeth ar gael yma. Os oes gan unrhyw un luniau neu atgofion o’r ardd – er enghraifft, pwy oedd yn gweithio yno, a beth …
Posted: 17/07/2017 by Admin
Hwb Loteri Anferth i Barc Abergwili
Yn sgil grant £1,274,300 ar gyfer elusen yn Sir Gaerfyrddin gan y Loteri Genedlaethol, mae’r freuddwyd o adfywio Parc yr Esgob yn Abergwili ar fin cael ei gwireddu. Gan weithio mewn partneriaeth ag Amgueddfa Sir Gaerfyrddin a’r Eglwys yng Nghymru, a chyda chefnogaeth o Gronfa Treftadaeth y Loteri, mae Ymddiriedolaeth Drws i’r Dyffryn wedi creu …
Posted: 21/03/2017 by Admin
(English) Diocese of St Davids: Press Release
Mae’n ddrwg gennym nad oes fersiwn Cymraeg o’r dudalen hon ar gael.
Posted: 08/02/2017 by Admin
Edrych am Ymddiriedolaethwyr
Ydych chi’n caru Caerfyrddin? Ydych chi’n gofidio am ein treftadaeth, tirwedd a’r amgylchedd? Hoffech chi gyfrannu o’r cychwyn at rywbeth newydd a chyffrous? Mae Ymddiriedolaeth Drws i’r Dyffryn – Tywi Gateway Trust yn chwilio am unigolion i gefnogi’r ymgyrch, sy’n cael ei gyrru gan y gymuned, i ailddatblygu Parc yr Esgob, Abergwili, Caerfyrddin. Mae’r …
Posted: 08/02/2017 by Admin
Penwythnos Galw i Mewn Cymunedol 11 a 12 Mawrth
Dydd Sadwrn 4 pm. Agoriad Swyddogol drws yr Ardd Furiog, gan y Parchedig Joanna Penberthy, Esgob Tŷ Ddewi. Rhaglen ar gyfer Dydd Sadwrn 11 Mawrth a Dydd Sul 12 Mawrth 11am – 3.00 pm Dewch i weld ein cynlluniau ar gyfer y parc – cewch ddweud eich dweud. Amgueddfa Sir Gaerfyrddin. 11am Taith Dywys. …
Posted: 22/11/2016 by Admin
Parciau a Gerddi Hanesyddol Sir Gaerfyrddin – Llyfr newydd
Mae cangen Sir Gaerfyrddin Ymddiriedolaeth Gerddi Hanesyddol Cymru yn falch i ddatgan cyhoeddiad llyfr newydd, ‘Parciau a Gerddi Hanesyddol Sir Gaerfyrddin’. Gellir lawrlwytho ffurflen i’w brynu yma.
Posted: 09/07/2016 by Admin
Ffrindiau Coedwig Cwm Penllergaer
Heddiw, roeddem ni’n falch iawn o dywys grŵp o Benllergaer o amgylch Parc yr Esgob. Cawsom ni i gyd amser da er gwaethaf y tywydd. Mae Coedwig Cwm Penllergaer yn brosiect adfer tirwedd diddorol iawn arall ac yn sicr yn werth ymweliad.
Posted: 21/06/2016 by Admin
Ffrindiau Gerddi Whitehurst
Heddiw, cawsom ymweliad gan Ffrindiau Gerddi Whitehurst sydd wrthi’n datblygu eu prosiect adfer eu hunain ar gyfer gardd o ganol y 17eg ganrif yng ngogledd-ddwyrain Cymru. Roedd yn bleser dweud wrthynt am ein prosiect ni a’u tywys o amgylch Parc yr Esgob, a chafodd pawb ddiwrnod da. Dymunwn bob llwyddiant iddynt gyda’u prosiect yn y dyfodol. …
Posted: 06/06/2016 by Admin
Comfort, Pleasure & Prestige
Bydd un o ymddiriedolwyr ein prosiect, sef Dr Alan Wilson, yn cyhoeddi llyfr newydd yn fuan ar dechnoleg plastai yn y wlad yng ngorllewin Cymru. Mae Comfort, Pleasure and Prestige yn disgrifio’r amrywiol ffyrdd yr oedd bonedd Cymru’n defnyddio technoleg y cartref i sicrhau eu bod yn gallu byw mor gysurus a mawreddog â phosibl …