Cyfleoedd Gwirfoddoli
20/05/2024
By Ffiona Jones
Mae gennym gyfleoedd ar gyfer gwirfoddolwyr i’n helpu gydag ein teithiau tywysedig dros fisoedd yr haf. Os oes gennych ddiddordeb yn hanes y safle ac yr ydych yn gallu rhoi awr neu ddau o’ch amser naill ai yn yr wythnos, gyda’r hwyr neu ar benwythnosau, cysylltwch â FfionaJones@tywigateway.org.uk am fwy o fanylion. Bydd hyfforddiant llawn …
Posted: 06/06/2016 by Admin
Parciau a Gerddi Hanesyddol Sir Gaerfyrddin
Mae llyfr newydd Ymddiriedolaeth Gerddi Hanesyddol Cymru ar Barciau a Gerddi Hanesyddol Cymru wedi cael ei gyhoeddi bellach. Mae manylion am sut i gael copi ohono ar gael trwy glicio ar y ddelwedd.
Posted: 06/06/2016 by Admin
Pwll yr Esgob
Bu’n wythnos wych ym Mharc yr Esgob. Mae mwy a mwy o liw ar y tir wrth i’r rhododendronau flodeuo ac mae’r lilïau’r dŵr a fydd yn gorchuddio’r pwll â’u blodau melyn yn dechrau ymddangos. Mae’r parc yn lle mor wych i weithio, nid dim ond oherwydd y planhigion ond hefyd y bywyd gwyllt; …
Posted: 01/06/2016 by Admin
Ymddiriedolaeth Porth Tywi
Mae’r prosiect i ailfywiogi Parc yr Esgob yn Abergwili gydag Amgueddfa’r Sir yn ei ganol wedi cymryd cam arall arwyddocaol ymlaen yn sgil ffurfio Ymddiriedolaeth Porth Tywi fel elusen annibynnol. Sefydlwyd y prosiect gan Gangen Sir Gaerfyrddin Ymddiriedolaeth Gerddi Hanesyddol Cymru i ymateb i weledigaeth y Cyngor Sir ar gyfer “parc ac amgueddfa i bawb”. …
Posted: 13/05/2016 by Admin
Cyhoeddiad newydd cyffrous gan Ymddiriedolaeth Gerddi Hanesyddol Cymru
Mae llyfr newydd mawr ei glod yn cael ei gyhoeddi gan Gangen Sir Gaerfyrddin Ymddiriedolaeth Gerddi Hanesyddol Cymru. Mae’r llyfr yn ymdrin â threftadaeth gyfoethog tri deg un o’r parciau a’r gerddi o amgylch Sir Gaerfyrddin. Cliciwch ar y ddolen uchod i gael gwybod sut i gael copi ohono.
Posted: 06/05/2016 by Admin
Plicio ein Hanes
Darganfyddiad diweddar a oedd yn dal i fod yn sownd wrth y wal ddwyreiniol. Label ar gyfer ‘Marie Louise d’Uccle’. Wedi llawer o waith ymchwil a chymorth gan y Gymdeithas Arddwriaethol Frenhinol, canfuwyd mai gellygen felys ydyw a ddaeth yn wreiddiol o ardal yn agos i Frwsel tua 1846. Rwy’n credu mai hwn fydd ein …
Posted: 01/05/2016 by Admin
Y Berllan yn Dechrau Blodeuo
Mae’r berllan yn yr ardd furiog yn dechrau blodeuo’n araf ac yn edrych yn wych ar y boreau gwanwyn heulog hyn. Yn yr hydref y llynedd, nid oedd yn amlwg o’r ffrwythau p’un a oedd y coed afalau i gyd yr un fath, ond mae blodau’r gwanwyn eleni yn dangos bod gwahanol fathau yn …
Posted: 06/04/2016 by Admin
Arolygu’r Ardd Gegin Furiog
Cwblhawyd ein gwaith arolygu ar y safle yn ddiweddar wrth i Ymddiriedolaeth Archaeolegol Dyfed archwilio’r ardd gegin furiog a’r Ddôl Fawr. Mae’n mynd i fod yn ddiddorol ac yn ddifyr darganfod hanes a chyfrinachau’r safle a ddatgelir gan y gwaith arolygu. Mae’r berllan yn yr ardd furiog yn dechrau blodeuo’n araf ac yn edrych yn wych ar y …
Posted: 29/03/2016 by Admin
Holiadur
Mae Ymddiriedolaeth Gerddi Hanesyddol Cymru yn gweithio mewn partneriaeth gyda Chyngor Sir Gaerfyrddin a’r Eglwys yng Nghymru i ddatblygu’r Mynedfa Tywi ym Mharc hanesyddol Yr Esgob, Abergwili. Mae’r safle ym mherchnogaeth Cyngor Sir Gaerfyrddin, lle mae Amgueddfa Sir Gaerfyrddin wedi’i leoli. Mae’r Prosiect Mynedfa Tywi yn cynllunio i warchod ac adfywio y Parc hanesyddol a …
Posted: 05/02/2016 by Admin
Datgloi Cyfrinachau’r Ardd Gegin Furiog
Dechreuodd waith ar yr ardd furiog heddiw yn barod ar gyfer y gyfres nesaf o arolygon safle. Mae’n mynd i fod yn ddiddorol iawn gweld beth sydd wedi goroesi o hanes y gerddi a beth y gall ei ddweud wrthym am sut y datblygwyd ac y defnyddiwyd yr ardd yn ystod y 300 mlynedd …
Posted: 29/01/2016 by Admin
Ffyngau ym Mhobman
Un o’r pethau mwyaf rhyfeddol am fod ar y safle ac ar y tir o ddydd i ddydd yw gallu gweld yr amrywiaeth hynod o ffyngau sy’n ymddangos bron dros nos. Weithiau, mae fel petaen nhw’n bodoli am ddiwrnod neu ddau yn unig cyn diflannu cyn gynted ag y daethant. Fe welwch fath gwahanol bob …