Straeon Gwirfoddolwyr – John Hancock
22/07/2026
By Anne
Rôl yn y parc: Derbynnydd Cefndir: Mae John wedi bod yma “ers iddo agor” ac ef oedd un o’r derbynyddion cyntaf yma. Mae’n 81 oed ac yn byw yn lleol; cyn gwirfoddoli yn y parc, gweithiodd am bum mlynedd fel derbynnydd mewn ysbyty hyd at gyfnod Covid. Mae hyn yn golygu bod John wedi bod …
















Pwll yr Esgob
Posted: 06/06/2016 by Admin
Bu’n wythnos wych ym Mharc yr Esgob. Mae mwy a mwy o liw ar y tir wrth i’r rhododendronau flodeuo ac mae’r lilïau’r dŵr a fydd yn gorchuddio’r pwll â’u blodau melyn yn dechrau ymddangos. Mae’r parc yn lle mor wych i weithio, nid dim ond oherwydd y planhigion ond hefyd y bywyd gwyllt; glaniodd crehyrod yn y cyrs yn fuan ar ôl i’r llun hwn gael ei dynnu ac fe’n gwyliwyd yn cerdded yn ôl i’r plas gan bâr o farcudiaid a oedd yn cylchu’r lawnt ddwyreiniol. O ystyried hynny ynghyd â’r gwenoliaid duon sydd wedi dechrau hedfan o amgylch y plas, mae rhywbeth rhyfeddol i’w weld bob amser.
Category: Archif y Newyddion