Straeon Gwirfoddolwyr – John Hancock
22/07/2026
By Anne
Rôl yn y parc: Derbynnydd Cefndir: Mae John wedi bod yma “ers iddo agor” ac ef oedd un o’r derbynyddion cyntaf yma. Mae’n 81 oed ac yn byw yn lleol; cyn gwirfoddoli yn y parc, gweithiodd am bum mlynedd fel derbynnydd mewn ysbyty hyd at gyfnod Covid. Mae hyn yn golygu bod John wedi bod …
















Arolygu’r Ardd Gegin Furiog
Posted: 06/04/2016 by Admin
Cwblhawyd ein gwaith arolygu ar y safle yn ddiweddar wrth i Ymddiriedolaeth Archaeolegol Dyfed archwilio’r ardd gegin furiog a’r Ddôl Fawr. Mae’n mynd i fod yn ddiddorol ac yn ddifyr darganfod hanes a chyfrinachau’r safle a ddatgelir gan y gwaith arolygu.
Mae’r berllan yn yr ardd furiog yn dechrau blodeuo’n araf ac yn edrych yn wych ar y boreau gwanwyn heulog hyn. Yn yr hydref y llynedd, nid oedd yn amlwg o’r ffrwythau p’un a oedd y coed afalau i gyd yr un fath, ond mae blodau’r gwanwyn eleni yn dangos bod gwahanol fathau yn yr ardd.
Category: Archif y Newyddion