Yr ymddiriedolaeth a elwid gynt yn….
07/04/2026
By Admin2
Bydd ymddiriedolwyr a staff Parc yr Esgob yn defnyddio’r enw “Ymddiriedolaeth Parc yr Esgob” o fis Ebrill 2026 ymlaen fel enw gweithredol cyhoeddus yr elusen, er y bydd The Tywi Gateway Trust yn parhau fel ein teitl cofrestredig cyfreithiol. Esboniodd Betsan Caldwell, Cadeirydd y Bwrdd “Roeddem eisiau gwella adnabyddiad o enw Parc yr Esgob a’r …
















Posted: 29/01/2016 by Admin
Ein Preswyliwr Hynaf
Un o’r pethau mwyaf cyffrous a ddarganfuwyd yn sgil ein harolwg coed oedd y goeden odidog hon y credir ei bod tua 300 mlwydd oed a’r sbesimen hynaf ar y safle! Mae hyn yn gyffrous gan fod y goeden yn dyddio o’r 18fed ganrif gynnar a’r adeg pryd yr adferwyd y plas a’r tir o …
Posted: 28/01/2016 by Admin
Arwyddion Cyntaf y Gwanwyn
Wrth i ni gerdded trwy’r parc i gynnal yr arolwg coed ar ddiwrnod a roddodd saib byr o’r glaw, daethom ar draws y goeden geirios unigol hon yn ei blodau – mae’r gwanwyn yn sicr o fod ar y gorwel.
Posted: 28/01/2016 by Admin
Iechyd Coed
Roedd heddiw’n ddiwrnod diddorol iawn ar y safle wrth i’r coed yn y parc gael eu hasesu am unrhyw broblemau iechyd. Cododd gynifer o ffeithiau diddorol o’r diwrnod – cadwch lygad am gyhoeddiadau yn y dyfodol ar ein coed godidog.
Posted: 26/01/2016 by Admin
Storm Jonas yn Taro
Wrth i storm ddiweddaraf y gaeaf sgubo dros y safle, roedd y Ddôl Fawr o dan ddŵr unwaith eto. Fodd bynnag, roedd y dŵr mor ddwfn y tro hwn fel iddo fynd dros yr ‘ha-ha’ dros nos a gorlifo ar draws rhan o’r tir isaf a’r llwybrau cylchdro. Roedd y dŵr wedi cilio erbyn toriad …
Posted: 22/01/2016 by Admin
Arolwg Ystlumod
Yr wythnos hon, er mwyn dod i adnabod ein safle’n well a gwneud yn siwr bod ein prosiect adfer yn cefnogi bywyd gwyllt yn ogystal â phlanhigion, rydym ni wedi bod yn brysur yn cynnal arolwg ystlumod ar y tir. Aseswyd mannau lle y gallai ystlumod glwydo, boed hynny’n ystafell y boeler yn y tŷ …
Posted: 20/01/2016 by Admin
Bore Rhewllyd
Heddiw, mae’r gaeaf wedi dod â’r rhew caled cyntaf i’r parc, sy’n rhyddhad ar ôl yr holl law. Wrth i’r haul godi a’r awyr droi’n las llachar, roedd y tir yn disgleirio yn yr heulwen gan ddenu llawer o bobl allan, gyda’u camerâu yn barod, i fynd am dro iachusol o amgylch y tir.
Posted: 14/12/2015 by Admin
Grant Ymddiriedolaeth Laspen
Heddiw, mae’n bleser gennym gyhoeddi derbyn grant gan Ymddiriedolaeth Laspen tuag at ddatblygu’n prosiect.
Posted: 01/12/2015 by Admin
Y Ddôl Gorlifdir yn gwireddu ei henw
Ar ôl stormydd anhygoel y diwrnodau diwethaf, bu’n amhosibl gwahaniaethu rhwng y Ddôl Fawr a Phwll yr Esgob. Am oddeutu canol dydd heddiw, wrth i’r afon gyrraedd y llanw uchel, roedd hi’n rhyfeddol gwylio pa mor gyflym llenwodd y dŵr y ddôl gan dynnu sylw at rai o’r hen gyrsiau afon nad oes modd eu …
Posted: 23/11/2015 by Admin
Gwaith Arolwg Topograffig yn cychwyn
Mae’r gwaith mesur ar y safle wedi dechrau. Heddiw, dechreuodd Ymddiriedolaeth Archaeolegol Dyfed eu harolwg o dopograffi. Bydd hwn yn mapio amlinellau’r tir; yn ei hanfod ei lympiau a’i dalpiau, er mwyn helpu darganfod oes gweddillion unrhyw strwythurau pwysig yn dal i fodoli islaw’r tir. Mae dechrau’r gwaith mesur wedi cyd-daro â dyfodiad y tywydd …
Posted: 02/10/2015 by Admin
Lliwiau’r Hydref
Mae’n sicr bod naws oer yn yr awyr y peth cyntaf y bore ‘ma ac wrth i’r tymor newid a’r tir ddechrau troi i liwiau’r hydref, mae gwiwerod ym mhobman wrthi’n casglu ac yn cuddio bwyd yn barod ar gyfer y gaeaf sydd i ddod. Yn ogystal, mae digon o wahanol fathau o ffyngau ar …