Amser Cwestiynau i Arddwyr Bywyd Gwyllt Llwyddiannus ym Mharc yr Esgob
20/10/2026
By Admin2
Cynhaliodd Parc yr Esgob yn Abergwili Amser Cwestiynau i Arddwyr yr Hydref, gyda ffocws arbennig ar fywyd gwyllt, ar Hydref 7fed, 6yn, yng Nghegin Stacey caffi preswyl Parc yr Esgob. Aelodau’r panel oedd Laura Moss o Ganolfan Gwybodaeth Bioamrywiaeth Gorllewin Cymru, Joseph Atkin, a oedd yn Brif Arddwr yn Aberglasney, Simon Richards sy’n Brif Arddwr …
















Y Ddôl Gorlifdir yn gwireddu ei henw
Posted: 01/12/2015 by Admin
Ar ôl stormydd anhygoel y diwrnodau diwethaf, bu’n amhosibl gwahaniaethu rhwng y Ddôl Fawr a Phwll yr Esgob. Am oddeutu canol dydd heddiw, wrth i’r afon gyrraedd y llanw uchel, roedd hi’n rhyfeddol gwylio pa mor gyflym llenwodd y dŵr y ddôl gan dynnu sylw at rai o’r hen gyrsiau afon nad oes modd eu gweld fel rheol yn y glaswellt.
Roedd cyflymder a grym y dŵr oedd yn tywallt allan o Bwll yr Esgob i’r nant ar hyd ein ffosglawdd yn anhygoel, ac o ystyried bod hyn yn rhyw 5 troedfedd o ddyfnder hefyd!
Category: Archif y Newyddion