GQT gyda ffocws ar fywyd gwyllt
30/09/2026
By Admin2
Mae Parc yr Esgob yn Abergwili, yn cynnal Amser Cwestiynau i Arddwyr yr Hydref, gyda ffocws arbennig ar fywyd gwyllt, ar Hydref 7fed, 6pm, yng Nghegin Stacey, Parc yr Esgob. Bydd y gynulleidfa’n gallu gofyn eu cwestiynau am sut i arddio’n wych mewn ffordd sy’n annog peillwyr, yn creu mosaig o gynefinoedd ac sy’n garedig …
















Gwaith Arolwg Topograffig yn cychwyn
Posted: 23/11/2015 by Admin
Mae’r gwaith mesur ar y safle wedi dechrau. Heddiw, dechreuodd Ymddiriedolaeth Archaeolegol Dyfed eu harolwg o dopograffi. Bydd hwn yn mapio amlinellau’r tir; yn ei hanfod ei lympiau a’i dalpiau, er mwyn helpu darganfod oes gweddillion unrhyw strwythurau pwysig yn dal i fodoli islaw’r tir.
Mae dechrau’r gwaith mesur wedi cyd-daro â dyfodiad y tywydd gwaethaf eleni felly mae’n waith eithaf gwlyb ac oer. Er gwaethaf hyn, wrth iddynt fynd o gwmpas eu gwaith, maen nhw wedi bod yn brysur yn gwneud ffrindiau â’r holl ymwelwyr i’r parc, boed ar ddwy goes neu bedair ac yn eu holl sgyrsiau, yr hyn sy’n dod i’r amlwg yw faint o bobl sy’n caru ac yn gwerthfawrogi’r parc a’r hyn sydd o’i amgylch.
Category: Archif y Newyddion