GQT gyda ffocws ar fywyd gwyllt
30/09/2026
By Admin2
Mae Parc yr Esgob yn Abergwili, yn cynnal Amser Cwestiynau i Arddwyr yr Hydref, gyda ffocws arbennig ar fywyd gwyllt, ar Hydref 7fed, 6pm, yng Nghegin Stacey, Parc yr Esgob. Bydd y gynulleidfa’n gallu gofyn eu cwestiynau am sut i arddio’n wych mewn ffordd sy’n annog peillwyr, yn creu mosaig o gynefinoedd ac sy’n garedig …
















Lliwiau’r Hydref
Posted: 02/10/2015 by Admin
Mae’n sicr bod naws oer yn yr awyr y peth cyntaf y bore ‘ma ac wrth i’r tymor newid a’r tir ddechrau troi i liwiau’r hydref, mae gwiwerod ym mhobman wrthi’n casglu ac yn cuddio bwyd yn barod ar gyfer y gaeaf sydd i ddod.
Yn ogystal, mae digon o wahanol fathau o ffyngau ar hyd y lle, sy’n haws tynnu ffotograffau ohonynt gan nad ydynt yn symud o gwmpas llawer. Nid oes diwrnod yn mynd heibio heb i wahanol fath ymddangos ar hyd y parc. Os byddwch yn dod o hyd i rai, gadewch nhw lle maen nhw er mwyn i bobl eraill eu mwynhau. Efallai y gallech anfon ffotograff o’r hyn a ganfuoch a byddwn yn ei roi ar ein tudalen Facebook.
Category: Archif y Newyddion