Ein Preswyliwr Hynaf

IMG_3782

Un o’r pethau mwyaf cyffrous a ddarganfuwyd yn sgil ein harolwg coed oedd y goeden odidog hon y credir ei bod tua 300 mlwydd oed a’r sbesimen hynaf ar y safle! Mae hyn yn gyffrous gan fod y goeden yn dyddio o’r 18fed ganrif gynnar a’r adeg pryd yr adferwyd y plas a’r tir o dan yr Esgob Ottley. Mae ei waith adfer ef yn darparu’r cyfeiriadau cyntaf y gwyddys amdanynt at ardd a pharc yma, er bod y safle wedi cael ei feddiannu ers dros 400 mlynedd.