Arolwg Ystlumod

IMG_3707

Yr wythnos hon, er mwyn dod i adnabod ein safle’n well a gwneud yn siwr bod ein prosiect adfer yn cefnogi bywyd gwyllt yn ogystal â phlanhigion, rydym ni wedi bod yn brysur yn cynnal arolwg ystlumod ar y tir. Aseswyd mannau lle y gallai ystlumod glwydo, boed hynny’n ystafell y boeler yn y tŷ gwydr yn yr ardd furiog neu hen goed ar y tir. Yn ystod yr arolwg, gwnaethom hyd yn oed ddod o hyd i un ystlum hirglust yn clwydo’n hapus. Dilynwch y ddolen i gael rhagor o wybodaeth am gadwraeth ystlumod.