Storm Jonas yn Taro

IMG_3733

Wrth i storm ddiweddaraf y gaeaf sgubo dros y safle, roedd y Ddôl Fawr o dan ddŵr unwaith eto. Fodd bynnag, roedd y dŵr mor ddwfn y tro hwn fel iddo fynd dros yr ‘ha-ha’ dros nos a gorlifo ar draws rhan o’r tir isaf a’r llwybrau cylchdro. Roedd y dŵr wedi cilio erbyn toriad y wawr, ond roedd yn dal i fod yn agos i ben yr ‘ha-ha’ hyd yn oed wedyn.

 

IMG_3729