Yn sgil grant £1,274,300 ar gyfer elusen yn Sir Gaerfyrddin gan y Loteri Genedlaethol, mae’r freuddwyd o adfywio Parc yr Esgob yn Abergwili ar fin cael ei gwireddu.

Gan weithio mewn partneriaeth ag Amgueddfa Sir Gaerfyrddin a’r Eglwys yng Nghymru, a chyda chefnogaeth o Gronfa Treftadaeth y Loteri, mae Ymddiriedolaeth Drws i’r Dyffryn wedi creu cynlluniau uchelgeisiol i ailintegreiddio, cadw ac adfywio’r gerddi pleser, hanesyddol, yr ardd lysiau â wal o’i chwmpas, yn ogystal â rhannau o’r Ddôl Fawr a Phwll yr Esgob, y ddau o ddiddordeb ecolegol mawr. Y canolbwynt fydd Canolfan Drws i’r Dyffryn lle fydd cyfleusterau gweithgareddau a dysgu, yn ogystal â’r siop goffi holl bwysig. Caiff pedwar aelod o staff eu recriwtio a bydd gan wirfoddolwyr, llawer ohonynt yn lleol, rolau allweddol. Y gobaith yw y bydd ymwelwyr yn gweld y gwaith yn dechrau o ddifri erbyn diwedd 2017.

Yr Ardd Furiog
Mae’r dyfarniad Loteri Genedlaethol hwn yn darparu ychydig dros hanner cyfanswm amcangyfrif costau’r prosiect o tua £2.3 miliwn. Gadawyd yr Ymddiriedolaeth – ynghyd â’i rhagflaenydd, cangen leol Ymddiriedolaeth Gerddi Hanesyddol Cymru (WHGT) – i godi gweddill yr arian. Mae Cyngor Sir Gaerfyrddin wedi cyfrannu £300,000 tuag at gostau cyfalaf a disgwylir newyddion am ddyfarniad grant gan Raglen Ddatblygu Cymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru. Mae’r gweddill wedi dod o ymddiriedolaethau elusennol a rhoddion unigol.
Ar ran Ymddiriedolwyr y Parc, dywed Michael Norman, “un o gryfderau mawr Parc yr Esgob yw bod cymaint o bobl leol wrth eu bodd â’r lle; eu parc nhw yw hwn. Gan weithio ochr yn ochor ag Amgueddfa’r Sir a Llwybr Beicio Dyffryn Tywi, bydd Parc yr Esgob felly yn lle a yrrir gan y gymuned ac yn lle sydd wedi ei ailfywiogi, sy’n fwy croesawgar, hygyrch a deniadol ar gyfer hamdden a dysgu. Bydd iechyd a lles hefyd yn uchel ar yr agenda, yn ogystal â chyfleoedd ar gyfer gwirfoddoli a chyflogaeth.”
Ychwanega Michael, “bydd y parc yn cyplysu ei gyfleusterau ymwelwyr â rhai’r amgueddfa er mwyn sicrhau dyfodol y ddau, cysyniad arloesol y credwn sy’n unigryw i Gymru. Ac os hoffai rhagor o bobl fod yn rhan o hyn, hoffem glywed ganddyn nhw!”
Meddai’r Cynghorydd Peter Hughes Griffiths, Aelod o Fwrdd Gweithredol Cyngor Sir Gaerfyrddin ar gyfer Diwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth: “Mae hon yn gamp gan grŵp o wirfoddolwyr ymroddedig lleol. Mae Amgueddfeydd Sir Gaerfyrddin wedi cydweithio â’r WHGT ac Ymddiriedolaeth Drws i’r Dyffryn trwy gydol y datblygiad prosiect cyffrous hwn ac maent wir yn edrych ymlaen at y cam nesaf yn y siwrne hon. Ochr yn ochr â chynllun y parc, bydd y datblygiad ar gyfer y llwybr beicio arfaethedig a cheisiadau i adfywio’r amgueddfa, gyda’i gilydd, yn darparu atyniad treftadaeth arwyddocaol ac o safon uchel dros y blynyddoedd sydd i ddod.”
Meddai Prif Weithredwr Cronfa Dreftadaeth y Loteri, Ros Kerslake, ar ran y Gronfa: “Mae’n anodd gorbwysleisio pwysigrwydd ein parciau cyhoeddus. Maent yn hanfodol ar gyfer ein lles ac yn angenrheidiol ar gyfer bioamrywiaeth, ac maent yn lleoedd o werth uchel a fwynheir gan bobl o bob math o gefndiroedd. Mae Parc yr Esgob yn un o’r parciau diweddaraf i elwa o dros £900miliwn o arian y Loteri Genedlaethol, sydd wedi chwarae rhan bwysig iawn dros yr ugain mlynedd diwethaf wrth adfywio dros 800 o barciau ledled y DU.”
Hwb Loteri Anferth i Barc Abergwili
Posted: 17/07/2017 by Admin

Category: Archif y Newyddion, Gwasg