Dyfodol Disglair i 3 Hyfforddai Garddwriaethol Newydd
10/11/2026
By Admin2
Mae’r ymddiriedolaeth sy’n rheoli Parc yr Esgob yn Abergwili wedi dechrau cyfnod newydd o ddatblygiad gan recriwtio 3 Hyfforddai Garddwriaethol. Mae cyllid gan Brosiect Porth Gwyrdd a Chronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol, ynghyd â chyllidwyr eraill, wedi galluogi’r tîm i ehangu drwy gynnig hyfforddiant mewn garddwriaeth dreftadaeth i arddwyr di-brofiad. Dechreuodd yr hyfforddeion, Ebony Grey, …
















Ymchwiliad Archaeolegol o’r Ardd Waliog
Posted: 15/03/2018 by Admin
Wrth baratoi ar gyfer i ni gymeryd drosodd yr ardd gegin waliog, cynhaliodd Ymddiriedolaeth Archaeolegol Dyfed arolwg helaeth yn 2017, gan gynnwys gweddillion y tai gwydr, a gyda cymorth gwirfoddolwyr lleol. Mae adroddiad yr Ymddiriedolaeth ar gael yma.
Os oes gan unrhyw un luniau neu atgofion o’r ardd – er enghraifft, pwy oedd yn gweithio yno, a beth a dyfwyd yno – hoffem glywed wrthych.
Ac os hoffech chi fod yn rhan o’r tîm gwirfoddolwyr newydd a fydd yn helpu i ddod â’r ardd yn ôl – eto, beth am gysylltu a ni?
Category: Archif y Newyddion