Ffrindiau Gerddi Whitehurst

Heddiw, cawsom ymweliad gan Ffrindiau Gerddi Whitehurst sydd wrthi’n datblygu eu prosiect adfer eu hunain ar gyfer gardd o ganol y 17eg ganrif yng ngogledd-ddwyrain Cymru. Roedd yn bleser dweud wrthynt am ein prosiect ni a’u tywys o amgylch Parc yr Esgob, a chafodd pawb ddiwrnod da. Dymunwn bob llwyddiant iddynt gyda’u prosiect yn y dyfodol.