Bydd un o ymddiriedolwyr ein prosiect, sef Dr Alan Wilson, yn cyhoeddi llyfr newydd yn fuan ar dechnoleg plastai yn y wlad yng ngorllewin Cymru.
Mae Comfort, Pleasure and Prestige yn disgrifio’r amrywiol ffyrdd yr oedd bonedd Cymru’n defnyddio technoleg y cartref i sicrhau eu bod yn gallu byw mor gysurus a mawreddog â phosibl mewn plasty yn y wlad. Er bod y llyfr yn canolbwyntio’n ddigywilydd ar dechnoleg plastai yn y wlad, rhoddir technoleg y cartref yn deg yn ei chyd-destun cymdeithasol a hanesyddol er mwyn esbonio pam y defnyddiwyd rhai technolegau ar draul eraill.
Amrywiodd ffawd bonedd Cymru’n fawr rhwng 1750 a 1930, ond trwy gydol y cyfnod hwnnw gwnaethant barhau i fyw mewn ffordd hedonistaidd yn ysblander cymharol eu plastai. I raddau helaeth, gwnaethant lwyddo i wneud hynny o ganlyniad i’w parodrwydd i osod mathau newydd o dechnoleg fel toiledau sy’n fflysio, goleuadau trydan a gwres canolog. Wrth archwilio’r berthynas rhwng technoleg, gwasanaeth cartref a dyheadau cymdeithasol y bonedd, mae Comfort, Pleasure and Prestige yn cyfeirio at enghreifftiau o blastai yn y wlad ledled gorllewin Cymru.
Mae’r llyfr hwn yn berffaith i bawb a hoffai wybod mwy am y technolegau a alluogodd blastai i gael eu cynnal mor ddidrafferth. Mae hefyd yn berffaith i’r rhai hynny sydd eisiau ehangu eu dealltwriaeth o sut oedd y bonedd yn byw mewn gwirionedd, a’r ffactorau cymdeithasol, technegol ac economaidd wrth wraidd cyflwyno technoleg newydd mewn plastai yn y wlad yng Nghymru.
Cafodd ALAN WILSON ei ddoethuriaeth o Brifysgol Manceinion gyda thraethawd ymchwil yn archwilio hanes cyflenwad dŵr a glanweithdra Manceinion. Yna, aeth ymlaen i gynhyrchu arddangosfa barhaol ar yr un pwnc yn yr Amgueddfa Gwyddoniaeth a Diwydiant ym Manceinion, ac wedi hynny fe’i penodwyd yn guradur Oriel Drydan Genedlaethol ac Oriel Nwy Genedlaethol yr amgueddfa.
Ar ôl symud i Gymru, darlithiodd ar hanes technoleg a pheirianneg sifil ym Mhrifysgol Abertawe a chyda’r Brifysgol Agored yng Nghymru. Drwy gydol ei yrfa academaidd, mae wedi ymchwilio i hanes cymdeithasol a thechnegol plastai yn y wlad, ac ysgrifennu a darlithio ar y pwnc, ac mae bellach wedi dwyn yr holl waith ymchwil hwnnw ynghyd yn yr astudiaeth hon o blastai gorllewin Cymru.
Comfort, Pleasure & Prestige
Posted: 06/06/2016 by Admin

Category: Archif y Newyddion