Ydych chi’n caru Caerfyrddin? Ydych chi’n gofidio am ein treftadaeth, tirwedd a’r amgylchedd? Hoffech chi gyfrannu o’r cychwyn at rywbeth newydd a chyffrous?
Mae Ymddiriedolaeth Drws i’r Dyffryn – Tywi Gateway Trust yn chwilio am unigolion i gefnogi’r ymgyrch, sy’n cael ei gyrru gan y gymuned, i ailddatblygu Parc yr Esgob, Abergwili, Caerfyrddin. Mae’r parc yn nodedig am ei hanes diwylliannol ac archeolegol, yn ogystal â nodweddion tirweddol gan gynnwys y Ddôl Fawr, Pwll yr Esgob (Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig) a’r ‘ha-ha’ enwog. Mae adeilad rhestredig a chyn-balas Esgobion Tyddewi yng nghanol y parc, a hwn bellach yw cartref Amgueddfa Sir Gaerfyrddin – trysorfa go iawn.
Os ydych chi’n hoffi her ac os oes gennych chi brofiad ym maes garddwriaeth, y celfyddydau, yr amgylchedd, codi arian, gwirfoddoli neu os oes gennych chi gefndir ym maes busnes, y gyfraith, cyllid, amgueddfeydd, treftadaeth neu addysg – beth am ymuno â ni? Ein gweledigaeth yw creu lle y gallwn i gyd fod yn falch ohono – er mwynhad, hamdden, dysgu, cyfranogi a hwyl! Byddwn yn integreiddio ein cyfleusterau i ymwelwyr gyda rhai’r amgueddfa er mwyn sicrhau dyfodol y ddau – partneriaeth gwbl unigryw.
Mae mwy o wybodaeth ar gael ar wefan (CC3) Yr Ymddiriedolwr Hanfodol www.gov.uk
Sefydliad Corfforedig Elusennol (SCE) yw’r Ymddiriedolaeth, gydag aelodau sy’n pleidleisio ar wahân i Ymddiriedolwyr yr Elusen. Rhif SCE Cofrestredig 1167244. Rôl ein Hymddiriedolwyr yw sicrhau bod y sefydliad yn gweithredu yn unol â gofynion cyfreithiol ac ariannol cwmni ac elusen, ac i fod yn gyfrifol am lywodraethu cyffredinol a chyfeiriad strategol.
Manylion cyswllt: sallymoss@tywigateway.org.uk neu 6 Stryd Caerfyrddin, Llandeilo. SA19 6AE.
Edrych am Ymddiriedolaethwyr
Posted: 08/02/2017 by Admin

Category: Archif y Newyddion