Dyfodol Disglair i 3 Hyfforddai Garddwriaethol Newydd
10/11/2026
By Admin2
Mae’r ymddiriedolaeth sy’n rheoli Parc yr Esgob yn Abergwili wedi dechrau cyfnod newydd o ddatblygiad gan recriwtio 3 Hyfforddai Garddwriaethol. Mae cyllid gan Brosiect Porth Gwyrdd a Chronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol, ynghyd â chyllidwyr eraill, wedi galluogi’r tîm i ehangu drwy gynnig hyfforddiant mewn garddwriaeth dreftadaeth i arddwyr di-brofiad. Dechreuodd yr hyfforddeion, Ebony Grey, …
















Drysau Agored – yr Ardd Gegin Furiog
Posted: 07/09/2018 by Admin
Ar 22 a 23 Medi, ynghyd ag Amgueddfa Sir Gaerfyrddin, byddwn yn agor y drws i’r Ardd Gegin Furiog fel rhan o gynllun Drysau Agored Cadw, sy’n cynnig mynediad am ddim i safleoedd hanesyddol yn ystod mis Medi.
Rhwng 11yb a 3yp gallwch gael mynediad i’r ardd waliog a gweld yr elfennau sy’n goroesi o Ardd Gegin yr Esgob cyn i’r prosiect cael ei ddechrau. Er bod yr ardd waliog yn ddiffaith ac wedi gordyfu ar hyn o bryd, mae coed ffrwythau wedi goroesi gyda chnydau da o ffrwythau i’w gweld a’u blasu. Bydd staff a gwirfoddolwyr Ymddiriedolaeth Parc yr Esgob wrth law i esbonio’r prosiect ac i wahodd ymwelwyr i ymuno â nhw ar eu taith adfer.
Dewch i’r Amgueddfa o 10yb hyd 4.30yp a dysgwch fwy am eu casgliadau – sydd yn ymestun o ddaeareg a llyfrau i sut i ofalu am eich trysorau cartref – gall y teulu i gyd ymuno â’r gweithgareddau hwylog.
Category: Newyddion Diweddaraf