Yn eisiau – Ymddiriedolwyr

Ydych chi’n caru Caerfyrddin? Ydych chi’n gofidio am ein treftadaeth, tirwedd a’r amgylchedd? Hoffech chi gyfrannu o’r cychwyn at rywbeth newydd a chyffrous?

Sefydlwyd Ymddiriedolaeth Drws i’r Dyffryn – Tywi Gateway Trust i gefnogi’r ymgyrch, sy’n cael ei gyrru gan y gymuned, i ailddatblygu Parc yr Esgob, Abergwili, Caerfyrddin. Mae’r parc, a gofrestrwyd fel Gradd II, a’i erddi pleser a muriog,  yn nodedig am ei hanes diwylliannol ac archeolegol, yn ogystal â nodweddion tirweddol gan gynnwys y Ddôl Fawr, Pwll yr Esgob (Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig) a’r ‘ha-ha’ enwog. Mae adeilad rhestredig a chyn-balas Esgobion Tyddewi yng nghanol y parc, a hwn bellach yw cartref Amgueddfa Sir Gaerfyrddin.

Ein gweledigaeth yw creu lle y gallwn i gyd fod yn falch ohono – er mwynhad, hamdden, dysgu, cyfranogi a hwyl. Byddwn yn integreiddio ein cyfleusterau i ymwelwyr gyda rhai’r amgueddfa er mwyn sicrhau dyfodol y ddau – partneriaeth gwbl unigryw. Yn ddiweddar, cychwynodd dau aelod o staff newydd – Rheolwr yr Ymddiriedolaeth a’r Pen Garddwr.

Mae rhai o’n Ymddiriedolwyr yn ymddeol cyn hir, ar ddiwedd y cyfnod datblygu, a rydym yn chwilio am uchafswm o 5 ymddirieolwr newydd i ymuno â’r Bwrdd i gynnal y prosiect trwy’r cyfnod nesa . Rôl ein Hymddiriedolwyr yw sicrhau bod y sefydliad yn gweithredu yn unol â gofynion cyfreithiol ac ariannol cwmni ac elusen, ac i fod yn gyfrifol fel tîm am lywodraethu cyffredinol, arweinyddiaeth a chyfeiriad strategol.

Rydym yn chwilio’n benodol am bobl gyda phrofiad rheolaeth mewn cyllid (mae ein Trysorydd yn ymddeol fis Tachwedd), yn ogystal â chodi arian, addysg, atyniadau treftadaeth, marchnata a chyfryngau cymdeithasol. Fodd bynnag, byddai sgiliau ym meysydd busnes, garddwriaeth, yr amgylchedd naturiol ac adeiladwaith, a’r celfyddydau o ddiddordeb. Hoffem hefyd weld mwy o siaradwyr Cymraeg ar y Bwrdd. Byddai profiad o weithio mewn neu gyda cyrff aelodaeth yn y sector wirfoddol yn ddefnyddiol.

Mae mwy o wybodaeth ar gael ar wefan (CC3) Yr Ymddiriedolwr Hanfodol https://www.gov.uk/government/publications/the-essential-trustee-what-you-need-to-know-cc3

Manylion cyswllt: enquiries@tywigateway.org.uk

Sefydliad Corfforedig Elusennol (SCE) yw’r Ymddiriedolaeth, gydag aelodau sy’n pleidleisio ar wahân i Ymddiriedolwyr yr Elusen. Rhif SCE Cofrestredig 1167244.