enquiries@tywigateway.org.uk Parc a Gerddi yr Esgob, Abergwili, Sir Caerfyrddin SA31 2JG

Cyfleodd Gwirfoddoli

Cyfleoedd Gwirfoddoli ym Mharc Yr Esgob

 

Mae gennym amrywiaeth o gyfleoedd gwirfoddoli amrywiol yma ym Mharc Yr Esgob:

Garddwriaeth a Chynnal a Chadw’r Parc

Mae ein prif arddwr, Blue Barnes Thomas yn goruchwylio tîm o wirfoddolwyr sy’n gofalu am y gerddi a’r parcdir. Gall hyn gynnwys unrhyw beth a phopeth o blannu a chwynnu i dorri llawryf ceirios. Dyddiau gwirfoddoli garddwriaeth yw dydd Mawrth a dydd Mercher 9.30yb -3.00yp.

 

Derbynfa

Rydym yn edrych am gwirfoddolwyr i fod yn gyfrifol am y dderbynfa. Mae’r dyletswyddau yn cynnwys croesawu ymwelwyr, darparu gwybodaeth (a fydd wrth law), cymryd negeseuon, gwerthu cynnyrch o’r ardd furiog a chadw’r ganolfan ymwelwyr yn lan ac yn daclus.

 

Caffi

Bydd dyletswyddau’r gwirfoddolwyr yn y caffi yn cael ei gosod gan Stacey a Lisa sy’n rhedeg y caffi.

 

Digwyddiadau

Rydym wastad angen gwirfoddolwyr i helpu gyda phob math o ddigwyddiadau sy’n cael eu cynnal yn y Parc. Popeth o barcio i groesawu ymwelwyr, rhoi’r babell fawr i fynnu i gasglu adborth. Yn ystod digwyddiadau i blant neu

deuluoedd, mae pâr arall o ddwylo yn gallu gwneud gwahaniaeth mawr!

 

Ymchwil Hanesyddol

Rydym yn dibynnu ar grŵp o wirfoddolwyr sydd yn diddori mewn hanes y safle a’r ardal leol i ymchwili a chasglu darnau o wybodaeth sy’n cael ei ddefnyddio ar ein gwefan, ar gyfer prosiectau eraill ac mewn digwyddiadau.

Bywyd Gwyllt

Rydym yn cynnal taith gerdded fisol o amgylch y parc er mwyn recordio’r fflora a’r ffawna ac i fonitro unrhyw newidiadau. Mae’r teithiau yma hefyd ar agor i’r cyhoedd. Rydym yn cyhoeddi crynodeb byr o bob taith ar ein gwefan, ond nawr fod gennym gwell fynediad i’r Waun Fawr, byddwn hefyd yn cynnwys bioamrywiaeth y llifddol ac fe fyddwn yn casglu data mwy manwl o’r ardal yma yn rheolaidd.

Cysylltwch â Ffiona am fwy o wybodaeth Sarahdobson@tywigateway.org.uk