Grantiau Trysorau’r Filltir Sgwâr!

Rydym wrth ein bodd i gyhoeddi ein bod wedi derbyn arian ar gyfer hyfforddi a chefnogi pobl ifanc i greu ffilmiau dwyieithog ac apiau gemau fideo o Barc Yr Esgob ac Amgueddfeydd Sir Gâr!

Bydd y prosiect, o’r enw –‘Parc Yr Esgob Hanes a Chof: Dal, Digido a Rhannu ein Storiâu’, yn cyflawni dehongliadau wedi eu canoli o amgylch pobl ifanc ar y safle ac ar-lein, sydd wedi eu ffocysu ar hanes pobl, newid hinsawdd a bioamrywiaeth.

Bydd y prosiect yn ysgogi dysgu creadigol, datblygu sgiliau trosglwyddiadol a gwybodaeth draws-gwriciwlar, a bydd yn cysylltu pobl ifanc yn ddyfnach gyda’r dreftadaeth sydd ar eu stepen drws. Diolch o galon i @HeritageFundCYM a @Cadw