Cyfle Kickstart: Garddwr Cynorthwyol!

Di-waith a rhwng 16-24? Dewch i ymuno gyda’n tîm cefnogol a chyfeillgar! Cyfle arbennig cynllun ‘Kickstart’ ym Mharc Yr Esgob yn gweithio gyda’n prif arddwr, Piers Lunt, 25 awr yr wythnos fel ‘Garddwr Cynorthwyol’.

Dysgwch am arddwriaeth, garddio, rheolaeth coedwig a dolau mewn safle hyfryd, ymysg coed hynafol, gardd furiog a pharcdir hanesyddol. Cytundeb cyflogedig 6 mis.

⏰Ymgeisiwch erbyn 28ain Chwefror ⏰ Darganfyddwch mwy a gwnewch gais 👉 http://bit.ly/33fXuQv