Taith Gerdded Bywyd Gwyllt – 21ain Mehefin 2022

Taith Gerdded Bywyd Gwyllt – 21ain Mehefin 2022, 2.00yp

Arweiniwyd yr 8 person a ddaeth i’r daith gan Max Pulford. Roedd hi’n ddiwrnod crasboeth, hirddydd haf, gyda thymheredd o 27⁰C gyda gwyntoedd ysgafn, a ddaeth a’r nifer mwyaf allan ar ddiwrnod hiraf y flwyddyn. Wrth i ni gerdded trwy Ardd Jenkinson, roedd nifer fawr o wenyn (mêl, hofran, cachgi bŵm a chardwenyn) a chlêr hofran yn casglu paill. Roedd y Blanwydden Llundain hynafol yn cael cwymp dail mis Mehefin – dydyn ddim yn siŵr os mae hyn oherwydd y tywydd twyn, diffyg glaw yn ddiweddar neu os yw’n rhywbeth sy’n digwydd, ond roedd y nyth gwenyn gwyllt yn weithgar iawn o fewn gau yn y boncyff chwith. Clywyd bronfraith yn canu ac yna glywyd cân telor penddu gwrw gan y grŵp tra oeddent yn edrych ar hesgen bendrwm wrth ochr coedir llaith. Mae hesg yn rhwydd adnabod gan fod ymyl i’w coesau. Roedd rhosyn gwyllt yn ei flodyn, a blodau neidr yn gyfagos, yn ogystal â’r planhigion coedir arferol, gan gynnwys eurinllys trydwll, hocys a briwlys y gwrych. Roedd u’n o’r grŵp yn gyn-feddyg coed, ac fe wnaeth ein difyrru gyda ffeithiau diddorol am y coed.

Wrth Bwll Yr Esgob (sy’n isel iawn ar hyn o bryd), fe welwyd dwy hwyaden wyllt a chrëyr glas rhwng y mat lili’r dŵr melyn, sy’n dechrau blodeuo. Gwelwyd pryfed mursen glas yn gwibio ar draws y dŵr. Clywyd dryw a ji-binc ac fe welwyd jac-y-do, ond yr uchafbwynt oedd gweld pâr o wybed gyda bwyd yn eu pigau a oedd yn awgrymu fod nyth a chywion ganddynt yn agos. Gobeithiwyd gweld neidr defaid yn yr ardd furiog, ond roedd hi hyd yn oed rhy boeth i hwythau. Mwynhawyd hufen iâ ar ddiwedd y dydd ac, er ni welwyd nifer mawr o adar, cafwyd dro diddorol a hyfryd gan bawb. Bydd y daith nesaf ar ddydd Mawrth 19eg o Orffennaf.

Llun agos o flodau gwyllt porffor bywiog gyda phum petal yr un, yn blodeuo ymhlith dail gwyrdd yng ngolau'r haul naturiol.  Mae un blodyn gwyllt porffor yn sefyll yn dal ymhlith glaswellt gwyrdd a blodau menyn melyn mewn dôl heulog, gyda choed a dail aneglur yn y cefndir.Llun agos o flodyn gwyllt gwyn gyda brigerau melyn, wedi'i ymweld gan wenynen fach neu bryf hofran, yn erbyn cefndir o ddail gwyrdd a gwyrddni aneglur. Mae gwenynen yn casglu neithdar o flodyn gwyllt tal, melyn golau o dan awyr las glir, wedi'i hamgylchynu gan flodau tebyg eraill a dail gwyrdd yn y cefndir. Llun agos o blanhigyn St. John’s Wort gyda blodau melyn llachar siâp seren a chlystyrau o flagur melyn wedi'u hamgylchynu gan ddail gwyrdd.  Mae gwenynen yn casglu paill o glwstwr o flodau pinc golau gyda phetalau brych, wedi'u hamgylchynu gan ddail gwyrddlas yng ngolau haul llachar.Parc heulog gyda glaswellt gwyrdd a choed deiliog, bwrdd picnic pren ar y chwith, a phedwar o bobl yn sefyll ar lwybr yn y cefndir, wedi'u cysgodi'n rhannol gan ganghennau coed. Llun agos o blanhigyn gyda dail cochlyd-wyrdd a chlystyrau o flodau bach, coch tywyll gyda chanol melyn llachar, wedi'u gosod yn erbyn cefndir o ddail gwyrdd a glaswellt.  Mae clwstwr o flodau bach gwyn yn blodeuo ymhlith dail gwyrdd, gyda golau'r haul yn amlygu'r petalau ac yn taflu cysgodion ar y dail yn y cefndir.Mae clwstwr o hadau masarn gwyrdd, a elwir hefyd yn samaras neu hofrenyddion, yn hongian o gangen goeden gyda dail gwyrdd mewn lleoliad awyr agored heulog. Mae'r cefndir yn aneglur gyda gwyrddni a blodau porffor.  Cangen o goeden gyda dail gwyrdd a chlystyrau o godennau hadau pigog, crwn, wedi'u ffotograffio yng ngolau'r haul gyda chefndir gwyrddlas o ddail.Mae clwstwr o geirios mewn gwahanol gamau o aeddfedu, o wyrdd i goch llachar, yn hongian o gangen wedi'i hamgylchynu gan ddail gwyrdd mawr, gyda golau haul yn hidlo trwy'r dail.  Mae nifer o flodau coeden tiwlip melyn gydag acenion oren yn blodeuo ymhlith dail gwyrdd mawr yng ngolau haul llachar. Mae cysgodion a golau brith yn hidlo trwy'r dail. Llun agos o blaguryn blodyn coeden tiwlip gwyrdd golau a melyn yn dechrau blodeuo, wedi'i amgylchynu gan ddail gwyrdd mawr yng ngolau'r haul llachar.