Straeon Gwirfoddolwyr – Mark Foreman

Gwirfoddolwr garddio

“Rwy’n gwirfoddoli yn y parc ers ymuno â chwrs garddio ‘Nature’s Nurture’ ym mis Mehefin 2025

“Rwyf wedi byw yn Abergwili ers 29 mlynedd ac wedi gweld sut mae’r parc wedi datblygu a thyfu dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf. Rwyf bob amser wedi bod yn berson awyr agored ac yn arfer mwynhau potsio o gwmpas yn yr ardd. Oherwydd afiechyd, dydw i ddim yn gallu cyflawni gweithgareddau fel roeddwn i’n arfer. Rhoddodd y cwrs Nature’s Nurture gefnogaeth, anogaeth a hyder i mi symud ymlaen.

“Mae Parc yr Esgob yn rhan o fy nghymuned, ac rwy’n mwynhau bod yn rhan o’r rôl wirfoddoli. Rwy’n hoffi bod yn yr awyr agored yn yr awyrgylch hamddenol, lle gallaf fod yn rhan o weithgareddau ymarferol. Rwy’n ail-ddysgu sgiliau, cwrdd a sgwrsio â phobl newydd a rhoi yn ôl i’r gymuned am y cymorth rydw i wedi’i dderbyn.

“Ers 10 oed, rydw i wedi byw ym Mronwydd, Caerfyrddin ac Abergwili. Mae gen i a ngwraig 2 fab sydd wedi tyfu i fyny, gyda theuluoedd. Rydw i’n mwynhau pêl-droed, bod yn yr awyr agored, crwydro a threulio amser gyda’r wyrion. Ers ymddeol o’m rôl fel dadansoddwr gwybodaeth yn y GIG, mae fy iechyd wedi dirywio ac mae’n rhaid i mi ailddysgu sgiliau a gwneud llawer o addasiadau yn dilyn anaf i’r pen. Mae angen ysgogiad ac anogaeth arnaf ond rydw i bob amser yn barod am sialens newydd.”