Straeon Gwirfoddolwyr – Ifan Roberts

Gwirfoddolwr garddio

“Rwyf yn gwirfoddoli yn y parc ers 18 mis.

“Fe es i mewn am goffi a gweld y ffurflenni gwirfoddoli yn y dderbynfa.

“Mae’n lle dymunol i weithio, dim pwysau! “Bos” da!

“Rwy’n 68 oed, wedi ymddeol yn llawn amser ac yn mwynhau helpu allan – pryd bynnag y bo modd. Cefndir mewn contractio amaethyddol a pheirianneg, felly NAD ydw i’n arddwr go iawn!”