Grant Cronfa Dreftadaeth Bensaernïol

hahasteps

Mae’r prosiect wrth ei fodd o gael grant gan y Gronfa Dreftadaeth Bensaernïol tuag at y gost o gyflogi Penseiri Cadwraeth arbenigol i roi cyngor ar gadwraeth ac adnewyddiad y nodweddion adeiledig hanesyddol ym Mharc yr Esgob.

Mae’r Gronfa Dreftadaeth Bensaernïol yn elusen gofrestredig a sefydlwyd ym 1976 i hyrwyddo cadwraeth ac ailddefnydd cynaliadwy o adeiladau hanesyddol mewn perygl er budd y cyhoedd.