Croeso MAWR i’r tîm!
29/09/2025
By Admin2
Croeso cynnes i Gemma Edwards, Swyddog Addysg newydd Parc yr Esgob, a ymunodd â ni ym mis Medi fel rhan o’n Prosiect Adferiad Gardd Furiog. Mae gan Gemma brofiad helaeth fel athrawes y Cyfnod Sylfaen, gyda brwdfrydedd dros ddysgu yn yr awyr agored a llond trol o syniadau. Rydyn ni wrth ein boddau o allu …
Llongyfarchiadau i Michael Norman MBE!
Posted: 11/06/2019 by Admin
Plannu llwyfen wen Ewropeaidd ym Mharc yr Esgob i ddathlu cyfraniad Michael Norman i’r safle.
Cafodd Michael Norman, un o’r ymddiriedolwyr a sylfaenodd Ymddiriedolaeth Drws i’r Dyffryn, ei anrhydeddu yn rhestr Anrhydeddau Penblwydd y Frenhines am wasanaethau i dreftadaeth.
Roedd Michael yn un o sylfaenwyr Ymddiriedolaeth Gerddi Hanesyddol Cymru 30 mlynedd yn ôl, ac yn wirfoddolwr, cyfarwyddwr ac ymddiriedolwr gyda Choedwig Dyffryn Penllergaer i fyny at dair blynedd yn ôl.
Gweithiodd Michael yn ddiflino o 2014 i sefydlu a chodi arian i brosiect Drws i’r Dyffryn, ac heb ei ymdrechion, ni fyddem yn y broses o adfer Parc yr Esgob nawr.
Category: Newyddion Diweddaraf