Dweud eich dweud am gyfrinach fawr Parc yr Esgob!

Mae eich barn yn bwysig i ni am ddyfodol Gardd Furiog, Parc yr Esgob.

Flynyddoedd maith yn ôl, yr ardd furiog hanner erw, wedi’i chuddio ar ochr orllewinol Y Parc oedd yn lle canolog iawn i Balas yr Esgob. Yn dyddio nôl i 1790 o leiaf, ac unwaith yn galon i’r ystad, roedd yr ardd yn cynhyrchu llysiau a ffrwythau, gan gynnwys pinafalau ar gyfer bwrdd yr Esgob.

Heddiw, mae cynlluniau cyffrous ar y gweill er mwyn adfer yr ardd furiog i’w hen ogoniant. Ar ôl derbyn gwobrau sylweddol o Gronfa Treftadaeth Y Loteri Genedlaethol a Chronfa Ffyniant Gyffredin Llywodraeth Y DU, ein gobaith yw agor yr ardd furiog i’r cyhoedd yn y dyfodol.

Mae’n bwysig i ni wrando ar farn ein hymwelwyr a’n cymuned leol er mwyn penderfynu beth fydd yn digwydd i’r ardd furiog ac i sicrhau bod pawb yn teimlo bod croeso iddynt a’u bod yn gallu cymryd rhan.

Byddem yn falch o glywed eich barn.

Llenwch ein harolwg byr trwy glicio ar y ddolen hon: https://forms.office.com/e/fvnEpE4DXi. Arolwg byr yw hwn a dim ond pum munud ddylai gymryd i’w lenwi.

Am fwy o fanylion cysylltwch â ni: Teresa Walters 07387 751571 teresawalters@tywigateway.org.uk neu Anne May 07909 544017 annemay@tywigateway.org.uk.