GQT gyda ffocws ar fywyd gwyllt
30/09/2026
By Admin2
Mae Parc yr Esgob yn Abergwili, yn cynnal Amser Cwestiynau i Arddwyr yr Hydref, gyda ffocws arbennig ar fywyd gwyllt, ar Hydref 7fed, 6pm, yng Nghegin Stacey, Parc yr Esgob. Bydd y gynulleidfa’n gallu gofyn eu cwestiynau am sut i arddio’n wych mewn ffordd sy’n annog peillwyr, yn creu mosaig o gynefinoedd ac sy’n garedig …
















Diwrnod Dolydd Cenedlaethol
Posted: 04/07/2015 by Admin
Heddiw yw’r Diwrnod Dolydd Cenedlaethol cyntaf erioed, sef ymgyrch newydd i godi ymwybyddiaeth o bwysigrwydd ecolegol y mannau arbennig iawn hyn ac i dynnu sylw at y dirywiad difrifol yn eu niferoedd dros y 100 mlynedd diwethaf. Mae hwn yn fater agos at ein calonnau gan ein bod yn edrych dros Y Ddôl Fawr, sef dôl gorlifdir prin, o’n ffosglawdd.
I gael rhagor o wybodaeth ynghylch pa mor arbennig yw dolydd, edrychwch ar y wefan Magnificent Meadows a dilynwch ni i gael newyddion am ein gwaith ar warchod y Ddôl Fawr ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol.
Category: Archif y Newyddion