Sioe Arddwriaethol Parc Yr Esgob

Mae ein Sioe Arddwriaethol Flynyddol yn ôl ar ddydd Sadwrn 2il o Fedi 2023 ac fe fydd yn fwy acyn well nag erioed!

Yn ogystal â dosbarthiadau ychwanegol ym mhob adran, mae gennym adran newydd sbon eleni –  Sioe Gŵn Hwyliog!

Mae gennym lefydd ar gael ar gyfer stondinau crefftau, bwyd a masnach. Cysylltwch â FfionaJones@tywigateway.org.uk am fwy o fanylion.

Mae nifer o fusnesau lleol wedi dangos eu cefnogaeth i ni’n barod. Os hoffech helpu noddi’r dosbarthiadau, cysylltwch â Ffiona neu Tina.

Mae’r atodlen ar gael ar y linc isod, neu o nifer o siopau a garejis lleol.

Show schedule 23 Final Copy