Croeso MAWR i’r tîm!
29/09/2025
By Admin2
Croeso cynnes i Gemma Edwards, Swyddog Addysg newydd Parc yr Esgob, a ymunodd â ni ym mis Medi fel rhan o’n Prosiect Adferiad Gardd Furiog. Mae gan Gemma brofiad helaeth fel athrawes y Cyfnod Sylfaen, gyda brwdfrydedd dros ddysgu yn yr awyr agored a llond trol o syniadau. Rydyn ni wrth ein boddau o allu …
Gwaith Coed ym Mharc yr Esgob
Posted: 07/12/2018 by Admin
Nawr fod Ymddiriedolaeth Drws i’r Dyffryn yn rheoli Parc yr Esgob yn weithredol, mae’n hanfodol bwysig ein bod yn gofalu am iechyd ein coed a choetiroedd.
Golyga hyn fod angen i ni wneud dipyn o waith arnynt ledled y Parc, i wella’r safle ar gyfer pobl a bywyd gwyllt ac i roi cyfle i ni blannu llawer mwy.
I ddarganfod mwy, dewch i’n gweld yn Neuadd Eglwys Abergwili ar Ragfyr 17eg rhwng 5 a 7yh.
Ceir mwy o wybodaeth yma,
neu gallwch gysylltu’n uniongyrchol â’n Pen Garddwr Piers Lunt drwy e-bost:
pierslunt@tywigateway.org.uk
Category: Newyddion Diweddaraf