Swyddi Gwag – 3 x Lleoliad Hyfforddiant Garddwriaethol â Thâl
14/07/2026
By Admin2
14-16 awr yr wythnos am 16 wythnos (oriau hyblyg trwy gytundeb) £177.94-£203.36 yr wythnos Manylion: 260707.Cym.HorticulturalTraineesRD.PyE2 Anfonwch e-bost at teresawalters@tywigateway.org.uk erbyn dydd Mercher 19eg Awst, yn esbonio pam yr hoffech weithio gyda ni a sut mae eich profiad a’ch diddordebau’n cyd-fynd â’r rhinweddau a amlinellir yn y Manyleb Person, gan roi rhai enghreifftiau. Cynhelir cyfweliadau ar y 9fed …
















Ymweliad Ymddiriedolaeth Gerddi Hanesyddol Cymru
Posted: 08/09/2015 by Admin
Ymwelodd Pwyllgor Ymddiriedolaeth Gerddi Hanesyddol Cymru â Pharc yr Esgob i weld dros eu hunain ein prosiect adnewyddu cyffrous dan arweiniad eu Cangen yn Sir Gaerfyrddin. Yn ogystal â thaith o’r tir, cawsant gyfle hefyd i archwilio’r ardd â wal o’i chwmpas nad oes modd mynd ati ar hyn o bryd a gweld rhai o’r coed afalau sy’n parhau yn y berllan.
Bydd yn ddiddorol darganfod beth fydd yr amrywiadau o afalau a gweld a oes unrhyw rai ohonynt yn hen amrywiadau treftadaeth draddodiadol. Un rhan bwysig o’r prosiect adnewyddu fydd gweithio gydag amrywiadau treftadaeth yn ogystal â phlanhigion sy’n beillwyr cyfeillgar i helpu adfer ein poblogaeth o wenyn sy’n edwino.
Os hoffech wybod mwy am sut gallwch helpu adfer ein poblogaeth o wenyn, ewch i wefan y Bumblebee Conervation Trust ar gyfer llawer o wybodaeth a syniadau. Gallwch hefyd ymweld â gwefan Ymddiriedolaeth Gerddi Hanesyddol Cymru i gael rhagor o wybodaeth am eu gwaith.
Category: Archif y Newyddion