Heddiw, cymerodd y prosiect gam mawr ymlaen wrth i ni gael y golwg gyntaf ar y cynllun safle arfaethedig. Ar ôl misoedd o ymchwil a thrafodaethau, rydym bellach yn cael gweld ar bapur am y tro cyntaf sut gallai’r safle wedi’i adnewyddu edrych. Mae pob un ohonom yn gyffrous iawn i weld potensial mawr Parc yr Esgob yn dechrau cymryd siâp.
Un o’r penderfyniadau mawr trwy archwilio’r holl dystiolaeth sydd ar gael yw penderfynu ar ba gyfnod amser fydd yr adnewyddiad yn gweithio iddo. Ar ôl tipyn o waith ymchwil, penderfynwyd mai’r ysbrydoliaeth ar gyfer yr adnewyddiad fydd sut oedd y parc yn edrych pan oedd John Jenkinson yn Esgob ar Dyddewi.
Pan ddaeth yn esgob ym 1825, dirywiodd y palas a’r parc. Gwariodd ei arian ei hun i ailadeiladu’r palas a gosod y tir ar ffurf lle’r oedd y planhigion yn hoelio’r sylw. Dyma’r tro diwethaf i’r parc wneud unrhyw waith tirlunio mawr. Bu farw’r Esgob Jenkinson ym 1840, ond roedd ei waddol yn Abergwili eisoes wedi’i ddiogelu. Yn yr un flwyddyn disgrifiwyd ei balas fel ‘plasty uchelwrol’ a chydnabuwyd bod ‘tipyn o harddwch’ wedi’i ychwanegu at y tir trwy ei waith.

Mae’n gyffrous meddwl bron i 200 o flynyddoedd yn ddiweddarach y gall ein prosiect helpu adnewyddu ei ardd goll annwyl i lawer, gan ddod â bywyd nôl i’r gymuned ac er mwyn i genedlaethau’r dyfodol ei mwynhau.
Cynllun Safle
Posted: 01/09/2015 by Admin

Category: Archif y Newyddion