Cyngor Cymuned Abergwili

Mae pump o oedolion yn sefyll gyda'i gilydd ar laswellt mewn parc, yn gwenu ar y camera. Mae un dyn sy'n gwisgo cadwyn seremonïol yn rhoi darn o bapur i fenyw. Mae coed a gwyrddni yn ffurfio'r cefndir.

Yn ddiweddar, cyflwynodd aelodau Cyngor Cymuned Abergwili siec i Gangen Sir Gaerfyrddin Ymddiriedolaeth Gerddi Hanesyddol Cymru i gefnogi gwaith Prosiect Porth Tywi’r Ymddiriedolaeth. Mae Parc yr Esgob yn annwyl iawn i lawer ac yn cael ei ddefnyddio gan bobl Abergwili ac mae rhodd hael Cyngor Cymuned Abergwili’n cydnabod pwysigrwydd cynnal a datblygu’r adnodd rhyfeddol hwn er budd parhaus y gymuned leol a’r ymwelwyr i’r ardal i’r dyfodol.

Ar ran Cyngor Cymuned Abergwili, dywedodd y Cadeirydd, y Cynghorydd Dorian Morgan “Mae Cyngor Cymuned Abergwili’n falch iawn o fod yn gysylltiedig â’r prosiect gwerth chweil hwn a fydd yn helpu adnewyddu treftadaeth leol er mwyn pleser cenedlaethau’r dyfodol”.

Dywedodd Judith Holland oedd yn siarad ar ran Ymddiriedolaeth Gerddi Hanesyddol Cymru ‘rydym yn hynod ddiolchgar am y gefnogaeth a’r brwdfrydedd ar gyfer y prosiect a ddangoswyd gan Gyngor Cymuned Abergwili. Trwy gefnogaeth ac ymwneud y gymuned leol a’i chynrychiolwyr, bydd Prosiect Porth Tywi’n llwyddo wrth sicrhau dyfodol Parc yr Esgob sydd o bwysigrwydd amgylcheddol a hanesyddol fel mwyniant rhyfeddol i bawb’.

Yn bresennol yn y seremoni roedd y Cynghorydd Andrew Hesford, sef cynrychiolydd y Cyngor ar Brosiect Porth Tywi, y Cynghorydd Dorian Morgan, Cadeirydd Cyngor Cymuned Abergwili, Judith Holland o Ymddiriedolaeth Gerddi Hanesyddol Cymru, y Cynghorydd Sir Pam Palmer ac Elfyn Williams, Cyngor Cymuned Abergwili.