Mae’r prosiect i ailfywiogi Parc yr Esgob yn Abergwili gydag Amgueddfa’r Sir yn ei ganol wedi cymryd cam arall arwyddocaol ymlaen yn sgil ffurfio Ymddiriedolaeth Porth Tywi (a elwir bellach yn Ymddiriedolaeth Parc yr Esgob) fel elusen annibynnol.
Sefydlwyd y prosiect gan Gangen Sir Gaerfyrddin Ymddiriedolaeth Gerddi Hanesyddol Cymru i ymateb i weledigaeth y Cyngor Sir ar gyfer “parc ac amgueddfa i bawb”. Nod prosiect Parc yr Esgob yw cyflawni ymagwedd integredig at yr hyn y mae’r Parc a’r Amgueddfa yn ei gynnig i’r gymuned, yn ogystal â chynulleidfaoedd o bellach i ffwrdd.
Yng ngeiriau Jean Reader, Cadeirydd Ymddiriedolaeth Gerddi Hanesyddol Cymru, “rydym ni’n ceisio cefnogaeth ar gyfer y prosiect cychwynnol hwn a fydd yn dangos bod y sectorau cyhoeddus ac elusennol yn gallu cydweithio er budd y cyhoedd i ddiogelu dyfodol asedau sydd, ar wahân, mewn perygl o gael eu colli am byth i dreftadaeth Cymru”.
Gyda chymorth gweithredol y Cyngor ac arweinyddiaeth yr ymddiriedolwyr sefydlol Judith Holland, Sally Moss, Andrew Hesford ac Alan Wilson, y flaenoriaeth erbyn hyn yw ceisio grant arall gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri i gynorthwyo i gyflawni’r prosiect hwn a allai dorri tir newydd.
Ymddiriedolaeth Porth Tywi (a elwir bellach yn Ymddiriedolaeth Parc yr Esgob)
Posted: 01/06/2016 by Admin

Category: Archif y Newyddion