Wythnos Rosie mewn Lluniau – Chwefror 2026
01/04/2026
By Admin2
Gall ymgysylltu pobl ifanc â threftadaeth fod yn anodd, felly roeddem wrth ein bodd yn croesawu Rosie am 4 diwrnod o brofiad gwaith ym mis Chwefror 2026. Dyma Flog Rosie: Diwrnod 1 Dechreuodd gwibdaith o gwmpas y parc yng Ngardd Jenkinson, o flaen Amgueddfa Sir Gâr. Dysgais i fod planhigion a pherlysiau llesol yn arfer …
















Pwll yr Esgob
Posted: 06/06/2016 by Admin
Bu’n wythnos wych ym Mharc yr Esgob. Mae mwy a mwy o liw ar y tir wrth i’r rhododendronau flodeuo ac mae’r lilïau’r dŵr a fydd yn gorchuddio’r pwll â’u blodau melyn yn dechrau ymddangos. Mae’r parc yn lle mor wych i weithio, nid dim ond oherwydd y planhigion ond hefyd y bywyd gwyllt; glaniodd crehyrod yn y cyrs yn fuan ar ôl i’r llun hwn gael ei dynnu ac fe’n gwyliwyd yn cerdded yn ôl i’r plas gan bâr o farcudiaid a oedd yn cylchu’r lawnt ddwyreiniol. O ystyried hynny ynghyd â’r gwenoliaid duon sydd wedi dechrau hedfan o amgylch y plas, mae rhywbeth rhyfeddol i’w weld bob amser.
Category: Archif y Newyddion