Straeon Gwirfoddolwyr – John Hancock
22/07/2026
By Anne
Rôl yn y parc: Derbynnydd Cefndir: Mae John wedi bod yma “ers iddo agor” ac ef oedd un o’r derbynyddion cyntaf yma. Mae’n 81 oed ac yn byw yn lleol; cyn gwirfoddoli yn y parc, gweithiodd am bum mlynedd fel derbynnydd mewn ysbyty hyd at gyfnod Covid. Mae hyn yn golygu bod John wedi bod …
















Posted: 27/05/2021 by Caroline Welch
Diogelwch yn y Parc
Gwybodaeth i Rieni a Gwarcheidwaid Mae’r Parc yn lle bendigedig i chwarae a fforio, ond mae ynddo lwybrau cul ac anwastad, peryglon baglu megis gwreiddiau coed a mannau serth yn ogystal â phwll eitha mawr tu ôl i ffens. Mae’r ha-ha (ffos hir a dwfn) yn rhedeg ar hyd ymyl y Parc i’w wahanu oddi …
Posted: 20/05/2021 by Caroline Welch
Digwyddiadur 2021
Rydym wrth ein bodd i gyhoeddi rhai o’n digwyddiadau eraill eleni – gobeithio fod rhywbeth at ddant pawb, ond os oes gennych unrhyw syniadau, sylwadau neu adborth, cofiwch roi gwybod. Cyhoeddir y digwyddiadau yma ar ein gwefan a’r cyfryngau cymdeithasol – felly cofiwch hoffi a rhannu i ledaenu’r newyddion! Mae’n hanfodol archebu’r digwyddiadau hyn o …
Posted: 27/04/2021 by Caroline Welch
Sudd Afal Parc yr Esgob ar werth!
Am y tro cyntaf erioed, rydym wedi gwasgu afalau treftadaeth o ardd furiog yr Esgob ei hun i greu sudd afal blasus. Ar gael tra bo cyflenwad am 20 o Mai, 4-6y.h. – y cyntaf i’r felin gaiff falu! Arian parod yn unig ar hyn o bryd. Am y Sudd Mae gennym 3 math o …
Posted: 08/04/2021 by Caroline Welch
Ymddangos yn Gardens Illustrated
Rydym wrth ein boddau i gael ymddangos yn Gardens Illustrated y mis yma! Mae ein prosiect i adfywio Parc Yr Esgob a’r Gerddi, Abergwili, gan gynnwys ein dwy ardd newydd bendigedig, caffi ac ardal dysgu newydd i gyd dan waith – ac y mae wedi cael sylw ar dudalen 103 o’r ‘Vogue’ o gylchgronau garddio’r …
Posted: 23/03/2021 by Caroline Welch
Gwaith yn dechrau ar y Caffi a Chanolfan Ddysgu Newydd!
Mae’n contractwyr TAD ar y safle nawr ac wedi dechrau ar y gwaith o adfer adeiladau allanol Palas yr Esgob sy’n dyddio o’r 1830au. Byddant yn creu caffi, toiledau a gofod dysgu, lle’r unwaith y safai golchdy, llaethdy a bragdy, lle gweithiai gweision aelwydydd yr Esgobion. Mae’r gwaith adeiladu ar amserlen dynn, er mwyn cael …
Posted: 18/03/2021 by Caroline Welch
Blog Piers
“Mewn fel llew ac allan fel oen” medden nhw am fis Mawrth; gwir iawn am yr hanner cyntaf a gobeithio felly am yr ail hanner! Cafwyd cyfnodau o dywydd gwyllt dros yr wythnosau diwethaf, ond er gwaetha holl ymdrechion gwyntoedd cryfion, llifogydd a rhew i drechu, mae’r gwanwyn wedi egino ym Mharc yr Esgob, gan …
Posted: 09/03/2021 by Caroline Welch
Plannu gerddi newydd cyfeillgar at fywyd gwyllt ym Mharc Yr Esgob, Abergwili, Sir Gâr
DATGANIAD I’R WASG 05-03-21 Plannu gerddi newydd cyfeillgar at fywyd gwyllt ym Mharc Yr Esgob, Abergwili, Sir Gâr Bydd dwy ardd newydd yn ymddangos ym Mharc yr Esgob, Abergwili fis yma, diolch i grant o £22,900 gan Lywodraeth Cymru a Chronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol ‘Lleoedd Lleol ar Gyfer Natur’. Mae’r parc yn amgylchynu hen …
Posted: 04/03/2021 by Caroline Welch
Trawsnewid Gardd yr Esgob Jenkinson
Bydd y fynedfa sydd yn croesawu ymwelwyr ar hyn o bryd yn cael ei drawsnewid i ddarparu gardd o ddiddordeb gydol y flwyddyn, ac ysbrydolwyd y dyluniad gan gyfnod yr Esgob John Jenkinson (1825 i 1840). Mewn ffurf cylch, bydd y plannu deniadol yn cynnwys gwyntyllau o goed afalau a gellyg treftadol, ac amrywiaeth o …
Posted: 02/02/2021 by Caroline Welch
Beth i’w Weld Nawr: Chwefror
Gyda’r gwanwyn ar ei ffordd, a’r dyddiau’n ymestyn, mae’n newyddion da i ymwelwyr a garddwyr fel ei gilydd. Cofiwch edrych allan am friallu yn y parc fis yma, sy’n dechrau blodeuo mewn gwahanol fannau, ynghyd â Llygad Ebrill bach siriol, sy’n arddangos llawer o ddail newydd ac ambell flodyn – ar ddyddiau disglair yn unig! …
Posted: 18/12/2020 by Admin
Creu gerddi newydd cyfeillgar at fywyd gwyllt ym Mharc Yr Esgob, Abergwili, gyda chefnogaeth gan Lywodraeth Cymru a’r Loteri Genedlaethol
Mae Ymddiriedolaeth Drws i’r Dyffryn wedi derbyn grant o £22,900 gan Lywodraeth Cymru a Chronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol ‘Lleoedd Lleol ar Gyfer Natur’ er mwyn creu dwy ardd newydd ym Mharc Yr Esgob, Abergwili, fel rhan o adferiad a chadwraeth helaethach y safle. Mae’r parc yn amgylchynu hen balas Esgobion Tyddewi, sydd nawr yn …